Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r Brentisiaeth Ddigidol Lefel 3 hon wedi’i chynllunio gyda chyflogwyr yng Nghymru i roi’r sgiliau digidol hanfodol sydd eu hangen ar weithwyr ar gyfer eu swydd. Mae dwy ffrwd ar gael - Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes neu Gymorth Cymwysiadau Digidol.
Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes
Mae’r rhaglen Brentisiaeth hon wedi’i llunio i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i ddiwallu anghenion sgiliau digidol sy’n hanfodol er mwyn i weithwyr allu manteisio’n llawn ar gyfleoedd digidol yn y gweithle. Mae’r fframwaith hwn yn ymdrin â llawer o swyddi a gallent naill ai fod o fewn -
● Swyddogaethau gweinyddol sefydliadau'r sector preifat a chyhoeddus sy'n trin data a dogfennau
● Gweithwyr gofal iechyd, manwerthu, gwasanaethau ariannol, peirianneg ac amaethyddiaeth sydd angen rhyngweithio â systemau digidol ac awtomeiddio
● Gweithredwyr ac arweinwyr tîm sy'n gweithio mewn unrhyw sector sy'n defnyddio systemau digidol data-ganolog i brosesu a storio data o unrhyw fath mewn swyddi is. Mewn gwirionedd, bron pob un o ddefnyddwyr systemau digidol a data gwell o unrhyw fath
Cymorth Cymwysiadau Digidol
Mae’r rhaglen Brentisiaeth hon wedi’i llunio i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i ddiwallu anghenion cymwysiadau digidol a chymorth seilwaith yn y gweithle. Mae’r swyddi a gwmpesir gan y fframwaith hwn yn cynnwys y rhai sy’n gweithio -
● Mewn sefydliadau ar draws pob sector diwydiant, gweithredu i gefnogi cymwysiadau a seilwaith digidol, dyfeisio datrysiadau a darparu cymorth a chefnogaeth i gydweithwyr
● Mewn desgiau cymorth technoleg ddigidol gyda chyfrifoldeb penodol am gymhwysiad defnyddiwr terfynol a chymorth seilwaith
● Mewn busnesau llai heb swyddogaeth ddigidol ar y safle, cymryd cyfrifoldeb am gymorth cymhwysiad a seilwaith i ddefnyddwyr a datrys problemau o ddydd i ddydd
● Yn gyfrifol am weithio gyda darparwyr cymwysiadau digidol a seilwaith trydydd parti
Asesiadau yn y gwaith
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y fframwaith hwn. Argymhellir, fodd bynnag, bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd G neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth) ar gyfer Prentisiaeth Lefel 2, ac argymhellir bod gan yr ymgeisydd TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth) ar gyfer Prentisiaeth Lefel 3.
Fodd bynnag, nid yw’r argymhellion hyn yn hanfodol. Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol ond nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Fodd bynnag, nid yw’r argymhellion hyn yn hanfodol. Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol ond nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Mae rhaglen Prentisiaeth Cymorth Cymwysiadau Digidol Lefel 3 yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus symud ymlaen ymhellach yn eu hastudiaethau ac ymgymryd â Phrentisiaeth Gradd Ddigidol neu HNC/D mewn Cyfrifiadura neu raglen technolegau digidol gysylltiedig. Gallant hefyd symud ymlaen yn eu swydd a dilyn eu dysgu trwy ymgymryd â chymwysterau proffesiynol technegol ychwanegol mewn seilwaith meddalwedd a chaledwedd. Gall prentisiaid sy’n cwblhau’r rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 hon symud ymlaen yn eu gyrfa i gymryd swyddi arweinydd tîm neu uwch swyddi cymorth, gan ddefnyddio eu harbenigedd technegol cynyddol o fewn y sefydliad.
Mae Cyllid Prentisiaeth ar gael
Am gost, cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Am gost, cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Tystysgrif L2 BCS mewn Sgiliau Defnyddwyr TG (ICDL Ychwanegol)
certificate
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Efelychu - Defnyddio Unreal Engine ar gyfer Diwydiant 4.0
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
ICDL UWCH – GWELLA CYNHYRCHIANT - UNED UNIGOL
short course