Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch Cyffredinol
Rhestr Fer
Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA55027 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 18 – 24 mis |
Adran | Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Prif ganlyniad Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch Cyffredinol yw cadarnhau eich gallu mewn swydd therapydd harddwch. Mae'r holl unedau yn y cymhwyster hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â swydd benodol therapydd harddwch.
Trosolwg
Mae’r Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn cadarnhau eich cymhwysedd fel therapydd harddwch. Mae’r cymhwyster yn rhan o fframwaith brentisiaeth, fodd bynnag mae’n cael ei gynnig hefyd ar wahân i brentisiaethau gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant sy’n gallu cynnig y cwrs hwn mewn amgylchedd salon go iawn, ac yn gallu darparu’r cyfle i chi ddysgu sgiliau therapi harddwch a gweithio gyda chleientiaid go iawn. Mae’n bwysig eich bod yn cael cyfle i ddysgu mewn amgylchedd gwaith go iawn, yn enwedig gan fod y cymhwyster hwn yn arwain at weithio mewn sector sy’n canolbwyntio ar gleientiaid a darparu gwasanaeth.
Mae’r cymhwyster hwn wedi ei lunio i ddysgwyr 16 oed neu hŷn, a bydd yn eich cynorthwyo i gael cyflogaeth fel therapydd harddwch, gan fod unedau’r cymhwyster hwn yn ymdrin â’r holl sgiliau a gwybodaeth a fydd eu hangen ar gyfer y swydd hon. Gallwch ddechrau ar y cwrs os ydych wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 mewn therapi harddwch yn y gorffennol a/neu brawf sgiliau a chyfweliad llwyddiannus.
Dyma gymhwyster galwedigaethol sy’n cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch, gan gynnwys unedau gorfodol sy’n cwmpasu’r canlynol: triniaethau trydanol y wyneb a’r corff, tylino’r corff, diflewio trydanol, monitro dulliau gweithredu yn y salon a chyfrannu at ddigwyddiad hyrwyddo.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i feithrin eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymhellach drwy ddewis nifer o unedau arbenigol dewisol, sy’n cynnwys: gwasanaethau colur brwsh aer, cwyro mannau preifat y corff, estyniadau sengl blew’r amrannau, lliw haul UV, rhoi lliw haul ffug ar eich hun, tylino gydag olewau wedi'u cymysgu'n barod, tylino pen Indiaidd a therapi cerrig. Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi’r cyfle i chi feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch.
Trwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn cynyddu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, a gofal cleientiaid. Byddwch hefyd yn meithrin ystod o sgiliau technegol wrth baratoi’r croen, gosod cynnyrch therapydd harddwch ac offer trydanol ar y croen, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau gwahanol. Byddwch yn meithrin sgiliau rhyngbersonol hefyd, a fydd yn eich galluogi chi i gyfathrebu’n effeithiol gyda chleientiaid.

Gallwch ddechrau ar y cwrs os ydych wedi cyflawni cymhwyster Lefel 1 mewn therapi harddwch yn y gorffennol a/neu brawf sgiliau a chyfweliad llwyddiannus.
Hefyd, bydd rhaid i chi fod yn gyflogedig gyda chyflogwr addas yn y sector Harddwch.

Dyma un o ddau gymhwyster Lefel 3 VTCT mewn therapi harddwch. Er bydd y ddau gymhwyster yn golygu eich bod yn gymwys i fod yn therapydd harddwch a chael cyflogaeth, mae’r cymhwyster hwn yn gofyn eich bod yn gweithio mewn salon harddwch fasnachol go iawn lle mae asesiadau yn cael eu gweithredu ar gleientiaid go iawn sy’n talu, yn unol ag amseroedd gwasanaethau masnachol.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich cymhwyso chi ar gyfer gyrfa fel therapydd sba. Byddwch yn gymwys i ymuno â chymdeithas broffesiynol a chael yswiriant fel therapydd harddwch hefyd. Mae cyfleoedd gyrfa fel therapydd harddwch yn bodoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys:
– Gweithio mewn salonau harddwch
– Gweithio mewn sbâu dydd a chyrchfannau
– Gweithio yn annibynnol/hunangyflogedig/symudol/yn y cartref

Edrychwch yn ein canllaw cyrsiau rhan-amser i weld y gost.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025