Diploma Lefel 2 Rheoli Tîm ILM

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA08022
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Oddeutu 12 Mis
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma Lefel 2 ILM mewn Arwain Tîm yn rhoi cyfle i ddysgwyr weithio a dysgu ar yr un pryd. Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer y rheini sydd mewn swyddi lle maent yn gyfrifol am dasgau arwain tîm amrywiol a allai gynnwys cyfathrebu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gwaith, rheoli perfformiad tîm a chyfrannu at gyfarfodydd. Dylai dysgwyr gael eu cefnogi gan eu cyflogwr er mwyn cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus.

Unedau Gorfodol:

200 Rheoli Perfformiad a Datblygiad Personol
201 Cyfathrebu Gwybodaeth sy’n Gysylltiedig â Gwaith
202 Arwain a Rheoli Tîm
203 Egwyddorion Arwain Tîm*
204 Deall Busnes*

Unedau Dewisol:

205 Datblygu Perthnasoedd Gwaith gyda Chydweithwyr
206 Cyfrannu at Gyfarfodydd mewn Amgylchedd Busnes
301 Rheoli Perfformiad Tîm
306 Rheoli Perfformiad Unigolion
212 Darparu Gwasanaeth i Gwsmeriaid

*Mae hyn yn dynodi uned wybodaeth lle nad oes angen tystiolaeth o berfformiad. Mae'r unedau dewisol a ddangosir yn sampl fechan o unedau sydd ar gael
Bod yn gweithio mewn swydd briodol er mwyn gallu casglu tystiolaeth
Cefnogaeth gan eich cyflogwr ar gyfer ymweliad asesydd â’r gweithle
Bydd pob dysgwr yn cael asesydd a fydd yn ymweld â’r gweithle unwaith y mis i arwain a chefnogi’r dysgwr i gyflawni’r cymhwyster. Ar gyfer y Diploma Lefel 3 mewn Rheoli, bydd gofyn i’r dysgwr gynhyrchu portffolio o dystiolaeth sy’n arddangos eu honiad o gymhwysedd. Gan fod dwy uned yn rhai gwybodaeth yn unig, byddwn yn cynnig sesiynau a addysgir yn rhad ac am ddim ar ein safle yn Llaneurgain. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn orfodol ac os yw’r dysgwr yn dewis peidio â’u mynychu, bydd yr Asesydd yn rhoi cymorth ac yn darparu adnoddau i’r dysgwr i sicrhau eu bod yn caffael y wybodaeth i gyflawni’r unedau hyn. Bydd tystiolaeth yn cael ei chasglu drwy arsylwi’r dysgwr yn uniongyrchol, gan ddarparu dogfennaeth y mae’r dysgwr yn ei chwblhau neu sy’n ymwneud â nhw, cydweithwyr a rhanddeiliaid yn darparu tystiolaethau tystion i gadarnhau bod y dysgwr wedi cyflawni tasgau, trafodaethau rhwng y dysgwr a’r asesydd am dasgau a gwblhawyd a datganiadau ysgrifenedig neu drafodaethau wedi’u recordio i gwmpasu’r wybodaeth ym mhob uned.
Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer swydd oruchwylio sy’n arwain at swydd reoli. Bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 os yw eu swydd yn cefnogi hyn.
£750.00 am yr NVQ ar ei ben ei hun.

Fodd bynnag, os caiff ei wneud fel rhan o fframwaith prentisiaethau, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyn yn amodol ar rai gofynion cymhwysedd.

Am ragor o fanylion cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?