NVQ L2 EAL mewn Cyflawni Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Dyma gymhwyster galwedigaethol cenedlaethol (NVQ) sy’n seiliedig yn y gweithle. Daw’r dystiolaeth y byddwch chi’n ei chynhyrchu yn uniongyrchol o weithgareddau yn y gweithle a thasgau y byddwch yn eu cyflawni fel rhan o’ch dyletswyddau cynhyrchu a gweithgynhyrchu.
Caiff unedau penodol ar gyfer y cymhwyster hwn eu dewis a’u cytuno wrth gofrestru, a chynhelir dadansoddiad o anghenion hyfforddi er mwyn sicrhau y gall unedau cymhwysedd eu cyflawni gan bob unigolyn.

Does dim arholiadau na phrofion.
Caiff pob uned ei hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu a all gynnwys arsylwadau yn y gweithle, adroddiadau gwaith ysgrifenedig, ffotograffau ac amryw o bethau eraill fel bo’n briodol. Caiff y dystiolaeth ei chasglu dros gyfnod addas o amser er mwyn sicrhau fod cymhwysedd wedi ei gadarnhau.

Rhaid bod yn gyflogedig mewn swydd ym maes gweithgynhyrchu. Mae angen mentor sydd â chymwysterau addas yn y gweithle er mwyn arolygu gweithgareddau a chefnogi datblygiad y dysgwr.
Bydd y cymhwyster hwn yn cynorthwyo unigolion i gael cymwysterau addas yn eu maes perthnasol.
Gellir symud ymlaen at NVQ L3 mewn Gweithrediadau Diwydiannau Prosesu sy’n cynnig ehangder priodol i’r swydd.
Gellir symud ymlaen at NVQ L3 mewn Gweithrediadau Diwydiannau Prosesu sy’n cynnig ehangder priodol i’r swydd.
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.