Diploma NVQ L2 C&G mewn Technegau Gwella Busnes

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA03862
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Dylai’r dysgu cael ei gwblhau o fewn oddeutu 18 mis. Mae angen cefnogaeth LAWN y rheolwyr a’r cwmni i gyflawni hyn gan fod prif elfennau’r cwrs hwn yn dibynnu ar roi technegau gwella busnes ar waith gan ddefnyddio prosesau gwaith go iawn.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

CYFLWYNO’R CWRS / CYMORTH TIWTOR –
Rhaglen ran-amser yw hon, sy’n cael ei chyflwyno yn gyfan gwbl yn y gweithle gyda chymorth tiwtor ar gyfer aseiniadau ac asesiadau. Mae 5 gweithdy i ddechrau sy’n cael eu cyflwyno dros gyfnod byr yn cynnwys gwybodaeth, dealltwriaeth a chymhwyso technegau gwella busnes. Yn ystod y gweithdai hyn, caiff ystod o brosiectau gwella eu nodi a all gael effaith gadarnhaol ar fesurau Ansawdd, Cost a Chyflenwi ar gyfer y busnes. Bydd disgwyl i ddysgwyr ar Lefel 2 gyfrannu at hyn. Bydd yn ffurfio sail unrhyw asesiad dilynol a fydd yn cael eu cynnal dros gyfnod o amser yn dilyn y gweithdai.

Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Cydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion sefydliadol
- Cyfrannu at waith tîm a chyfathrebu effeithiol
- Cyfrannu at gadw trefn yn y gweithle
- Cyfrannu at roi technegau gwella parhaus ar waith (kaizen)
- Cyfrannu at ddatblygu safoni a rheoli gweledol
- Rhoi dadansoddiad proses llif ar waith
- Cyfrannu at ddatrys problemau ymarferol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad. Mae Lefel 2 yn ddelfrydol os ydych chi eisiau gweithio mewn amgylchedd gwella busnes neu yn gweithio yn y maes hwn yn barod. Efallai bod gennych chi rywfaint o wybodaeth a sgiliau sylfaenol yn y diwydiant yn barod. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi eisiau cynyddu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am y prosesau sydd ynghlwm wrth wella eich rhagolygon gyrfa neu symud ymlaen i astudio ymhellach.
Nid oes unrhyw brofion nac arholiadau.
Bydd pob uned yn cael ei hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu a all gynnwys arsylwadau yn y gweithle, adroddiadau prosiect, dadansoddi stategol, gweithgareddau ymarferol, casglu dogfennaeth berthnasol ac ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau.
Yn ogystal â datblygu o fewn eich swydd bresennol, gall hyn hefyd eich galluogi i symud ymlaen i gymhwyster Lefel 3 NVQ mewn Technegau Gwella Busnes
I gael gwybod cost y cwrs, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at:employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?