City & Guilds Diploma NVQ Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad

Rhestr Fer

  • Cliciwch ‘Ychwanegu y Rhestr Fer’, er mwyn dechrau adeiladu eich rhestr o bynciau a chyrsiau y gallwch chi eu hadolygu a gwneud cais i’w hastudio.
Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA05012
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 18 mis yn dibynnu ar gynnydd gweithiwr unigol
Ar gyfer dyddiadau’r cwrs, cysylltwch â Choleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Adran
Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyngor ac Arweiniad
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda chleientiaid mewn sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyngor ac arweiniad, ar sail broffesiynol neu wirfoddol.

Maent ar gyfer unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn (Lefel 4) sy'n darparu cyngor ac arweiniad mewn rôl broffesiynol neu wirfoddol. Gallech chi fod yn gweithio mewn canllawiau gyrfaoedd, ar gyfer undeb llafur, mewn ysgol, mewn tai lleol, adnoddau dynol, gwasanaethau'r trydydd sector, gwasanaethau cyhoeddus neu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r lefel hon yn ddelfrydol os ydy eich swydd yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i gleientiaid, adrodd i uwch reolwyr a rhwydweithio gyda gwasanaethau cysylltiedig.

Er mwyn ennill y cymhwyster hwn, rhaid i chi gwblhau ystod o unedau gorfodol a dewisol, gan gynnwys:

● Cefnogi cleientiaid i ddefnyddio gwasanaeth cyngor ac arweiniad
● Rhwydweithio gyda gwasanaethau eraill
● Rheoli llwyth achosion personol
● Eirioli ar ran cleientiaid
● Paratoi a gosod camau gweithredu ar gyfer cleientiaid
● Adolygu cynnydd cleientiaid
● Ymdopi gyda sefyllfaoedd brys
● Deall deddfwriaeth i gadw ati
● PREVENT - 4 modiwl i’w gwblhau ar-lein gan gynnwys y Gwerthoedd Prydeinig, aros yn ddiogel ar-lein, beth allwch chi ei ymddiried ynddo a radicaleiddio ac eithafiaeth.

Gallwch chi ddewis y cymhwyster sy’n arddangos y wybodaeth a’r sgiliau arbenigol rydych chi wedi’u datblygu, fel:

Trafod ar ran cleientiaid
Darparu a chynnal deunyddiau gwybodaeth
Llunio deunydd gwybodaeth ar gyfer cleientiaid
Cysylltu â gwasanaethau eraill
Paratoi a gosod gwasanaethau cyfryngu
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Accessibility Tools