City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Tywarchen Chwaraeon - Greenkeeper)

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, meithrin ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu symud ymlaen mewn gyrfa yn y sector garddwriaeth, gan ddatblygu sgiliau galwedigaethol uchel a gwybodaeth dda am ystod eang o sgiliau garddwriaethol sy’n briodol i gymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
● Ceidwad griniau
● Ceidwad griniau cynorthwyol
● Contractwr sy’n darparu gwasanaethau’n uniongyrchol ar gyfer cyrsiau golff

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud tasgau arferol yn y gweithle ac fe allent ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau uwch ac at brentisiaethau perthnasol a llwybrau gyrfa.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol.

Mae sgiliau galwedigaethol yn y cymhwyster yn cynnwys:-
● Sefydlu cae chwaraeon gan hadu a thywarchu gan gynnwys clirio safleoedd, paratoi tir ac ôl-ofal.
● Defnyddio a chynnal ystod o offer fel offer di-bwer ac offer llaw â phŵer, offer a reolir â’r traed ac offer gyrru â phŵer gan gynnwys y tractor ac ategolion.
● Cynnal iechyd a chyflwr arwynebau’r cae chwaraeon.
● Adnewyddu ac atgyweirio arwynebau chwaraeon.

Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.

Diploma yw’r cymhwyster hwn, lle mae angen i’r dysgwr gyflawni 44 credyd o’r holl unedau gorfodol.
Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion
Ystyrir achredu dysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gwahoddir dysgwyr addas 16 oed a hŷn i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Gellir defnyddio’r cymhwyster fel cam agosach at lefel uwch fel dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn safle i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?