Diploma L3 C&G mewn Amaethyddiaeth yn y Gwaith

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA06371
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Enillir y cymhwyster trwy unedau ac anogir ymgeiswyr i weithio ar eu cyflymer eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd faint o amser mae’n gymryd i gwblhau yn dibynnu ar lawer o ffactorau, ond rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr angen rhwng 18 a 24 mis i gwblhau’r cwrs.
Adran
Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno datblygu sgiliau a gwybodaeth ymarferol o ran sgiliau Amaethyddol i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, yn cynnwys arweinydd tîm neu oruchwyliwr:-
● Gwaith fferm
● Rheoli buches
● Bugeilio
● Contractio

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n trefnu, goruchwylio ac yn adrodd yn ôl am dasgau gweithle arferol ac a allai ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam i lefelau uwch a llwybrau gyrfa perthnasol.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol er mwyn sefydlu a hyrwyddo sgiliau cyflogaeth megis Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasoedd gwaith effeithiol, ynghyd â hyrwyddo arferion amgylcheddol da a chyfathrebu yn y gweithle.

Gall yr unedau dewisol gynnwys detholiad o’r unedau isod:
● Paratoi, monitro a chynnal godro da byw
● Monitro a gofalu am anifeiliaid yn ystod ac ar ôl genedigaeth
● Monitro a chynnal maeth y pridd ar gyfer cnydau porthiant a glaswelltir
● Monitro a chynnal iechyd anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd
● Datblygu a gweithredu cynlluniau i waredu gwastraff


Mae’r holl unedau’n cynnwys gofyniad i ddysgwyr hwyluso paratoi ar gyfer y tasgau, dangos arferion gwaith diogel trwy gydol y tasgau a gweithio i sicrhau diogelu’r amgylchedd trwy leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae’r holl unedau’n cynnwys adran wybodaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth yn y pwnc y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i gyflawni’r gwaith.

Bydd dysgwyr yn dewis unedau i’w cyfuno i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Mae’r cymhwyster hwn yn Ddiploma sy’n golygu bod rhai cyflawni nifer penodol o gredydau, yn gyfuniad o gredydau o’r unedau gorfodol a’r unedau dewisol a ddewiswyd.

Gwahoddir dysgwyr addas 16 oed+ i ymuno ar y cwrs unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn cael eich cyflogi yn y maes dysgu hwn ac yn derbyn cefnogaeth lawn eich cyflogwr. Mae’n rhaid i chi fod mewn sefyllfa i oruchwylio neu reoli tasgau yn y gweithle.
Bydd pob ymgeisydd yn mynd trwy ddadansoddiad anghenion hyfforddiant trwyadl i sicrhau dewis y cwrs cywir a’r lefel cywir.
Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle, ac mae’n rhaid i’r gweithle gydymffurfio gyda gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau i asesu cymhwysedd a gwybodaeth sail. Cyflwynir tystiolaeth cymhwysedd a gwybodaeth trwy amrediad o ddulliau y cytunir arnynt rhyngoch chi, eich aseswr a’ch cyflogwr.

Mae’r dysgu’n digwydd ar ffurf cymysgedd o arsylwi yn y gweithle, cwestiynau ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni cofnodi gwaith, ffotograffau, fideos a datganiadau gan dystion.

Bydd yn ofynnol i’r dysgwr fynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos i gael cymorth addysgu a dysgu ychwanegol, ac i gynorthwyo gyda chwblhau elfen gwybodaeth a dealltwriaeth y cymhwyster hwn.

Cynigir cymorth ar-lein trwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Ystyrir achredu dysgu blaenorol, ond mae cyfyngiad amser ar hyn
Mae’r cymhwyster yn rhan o Fframwaith Prentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Gellir ei ddefnyddio i gamu i lefel uwch megis
● Dyfarniad, tystysgrif neu ddiploma Lefel 3 mewn maes cysylltiedig i fod mewn sefyllfa i gynnwys peth rheoli yn y swydd
● Cymhwyster Addysg Uwch Lefel 4 neu 5
Cysylltwch gyda’n tîm ymgysylltu gyda chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfon neges e-bost i employers@cambria.ac.uk i drafod y meini prawf cyllido.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?