City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Tywarchen Chwaraeon - Groundsman)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA11902
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen rhwng 12 a 24 mis.
Adran
Garddwriaeth a Thirlunio
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, meithrin ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu symud ymlaen mewn gyrfa yn y sector garddwriaeth, gan ddatblygu sgiliau galwedigaethol uchel a gwybodaeth dda am ystod eang o sgiliau garddwriaethol sy’n briodol i gymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
● Caeau rygbi a phêl-droed
● Meysydd criced
● Cyrsiau rasio
● Meysydd chwaraeon eraill
Sylwch fyddai gofalwr tir golff fel arfer yn mynd i’r afael â’r opsiwn Meysydd Chwaraeon - Ceidwad Griniau

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud tasgau arferol yn y gweithle ac fe allent ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau uwch ac at brentisiaethau perthnasol a llwybrau gyrfa.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol.

Mae sgiliau galwedigaethol yn y cymhwyster yn cynnwys:-
● Sefydlu cae chwaraeon gan hadu a thywarchu gan gynnwys clirio safleoedd, paratoi tir ac ôl-ofal.
● Defnyddio a chynnal ystod o offer fel offer di-bŵer ac offer llaw â phŵer, offer a reolir â’r traed ac offer gyrru â phŵer, peiriannau asglodi a / neu beiriannau rhwygo ac offer pŵer eistedd arnynt.
● Paratoi a gweithredu tractor ac atodiadau, cynnal a chadw offer a pheiriannau.
● Cynnal a chadw planhigion a glaswellt gan gynnwys tocio a thrimio, rheoli tyfiant nad oes eu heisiau, canfod a rheoli plâu, clefydau ac anhwylderau.
● Adnewyddu, trwsio a chynnal a chadw arwynebau meysydd chwaraeon.
● Llwytho a dadlwytho adnoddau corfforol o fewn yr ardal waith, cludo adnoddau corfforol o fewn yr ardal waith.


Mae pob uned yn cynnwys gofyniad i ddysgwyr wneud paratoadau ar gyfer y tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel drwy gydol a gweithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod trwy leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth lle mae angen i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael â’r gwaith.

Bydd dysgwyr yn dangos unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Mae’r cymhwyster hwn yn Ddiploma lle mae angen cyflawni 37 credyd; 18 o’r unedau hanfodol ac 19 o’r unedau dewisol a ddewiswyd.
Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion.
Ystyrir achredu dysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gwahoddir dysgwyr addas 16 oed a hŷn i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Gellir defnyddio’r cymhwyster fel cam yn agosach at lefel uwch fel dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn safle i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiol

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?