main logo

City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA11915
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Enillir y cymhwyster trwy unedau ac anogir ymgeiswyr i weithio ar eu cyflymer eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd faint o amser mae’n gymryd i gwblhau yn dibynnu ar lawer o ffactorau, ond rydym ni’n disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr angen rhwng 12 a 20 mis i gwblhau’r cwrs.
Adran
Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn yn caniatáu i’r dysgwr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth a/neu ddatblygu gyrfa yn y sector amaethyddol trwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol lefel uchel a gwybodaeth bynciol dda mewn amrediad o sgiliau amaethyddol sy’n briodol ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, yn cynnwys:
● Gweithiwr Fferm Cyffredinol
● Cowmon
● Bugail
● Contractwr

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n cyflawni tasgau arferol yn y gweithle a allai ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam i addysg lefel uwch a llwybrau gyrfa.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol er mwyn sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth megis Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasoedd gwaith effeithiol.

Mae’r sgiliau galwedigaethol yn y cymhwyster yn cynnwys:-
● Paratoi ar gyfer, gweithredu a chwblhau godro da byw
● Monitro a chynnal y cyflenwad porthiant a dŵr i dda byw
● Cynnal iechyd a lles da byw yn ystod genedigaeth a gofalu am y fam a’r babi
● Paratoi a defnyddio tractor gydag offer cysylltiedig
● Cynnal offer a pheiriannau
● Rhoi triniaethau sylfaenol i dda byw


Mae’r holl unedau’n cynnwys gofyniad i ddysgwyr baratoi ar gyfer y tasgau, dangos arferion gwaith diogel trwy gydol y tasgau a gweithio i sicrhau diogelu’r amgylchedd trwy leihau halogiad a rheoli gwastraff.

Mae’r holl unedau’n cynnwys adran wybodaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth yn y pwnc y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i gyflawni’r gwaith.

Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Dyma gymhwyster Diploma, lle mae gofyn i gyflawni 37 credyd o'r unedau gorfodol a dewisol a ddewisir
Bydd eich Aseswr Coleg yn ymweld â’ch gweithle, ac mae’n rhaid i’r gweithle gydymffurfio gyda gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau i asesu cymhwysedd a gwybodaeth sail. Cyflwynir tystiolaeth cymhwysedd a gwybodaeth trwy amrediad o ddulliau y cytunir arnynt rhyngoch chi, eich aseswr a’ch cyflogwr.
Cynigir cymorth ar-lein trwy amgylchedd dysgu rhithiol.
Mae’r dysgu’n digwydd ar ffurf cymysgedd o arsylwi yn y gweithle, cwestiynau ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni cofnodi gwaith, ffotograffau, fideos a datganiadau gan dystion.
Bydd yn ofynnol i’r dysgwr fynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos i gael cymorth addysgu a dysgu ychwanegol, ac i gynorthwyo gyda chwblhau elfen gwybodaeth a dealltwriaeth y cymhwyster hwn.
Ystyrir achredu dysgu blaenorol, ond mae cyfyngiad amser ar hyn.
Gwahoddir dysgwyr addas 16 oed+ i ymuno ar y cwrs unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol y byddwch neu eich bod yn cael eich cyflogi yn y maes dysgu hwn ac yn derbyn cefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Bydd pob ymgeisydd yn mynd trwy ddadansoddiad anghenion hyfforddiant trwyadl i sicrhau dewis y cwrs cywir a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster yn rhan o Fframwaith Prentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Gellir ei ddefnyddio i gamu i lefel uwch megis dyfarniad, tystysgrif neu ddiploma Lefel 3 mewn maes cysylltiedig i fod mewn sefyllfa i gynnwys peth rheoli yn y swydd.
Cysylltwch gyda’n tîm ymgysylltu gyda chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfon neges e-bost i employers@cambria.ac.uk i drafod y meini prawf cyllido.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?