Diploma Lefel 4 Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheoli ILM

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA09160
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Mae gennych 18 mis i gwblhau’r cymhwyster.

Cysylltwch â Sue McCrossan drwy anfon e-bost at sue.mccrossan@cambria.ac.uk neu ffonio 01978 267414 i gael rhagor o wybodaeth.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r rhaglen brentisiaeth uwch hon yn cynnig pecyn hollgynhwysol sydd wedi ei lunio ar gyfer rheolwyr canol ar hyn o bryd, mewn unrhyw leoliad gwaith.

Bydd ymgeiswyr yn ennill nifer o gymwysterau gwahanol ond cyflenwol. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys:

• Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli
• Diploma NVQ Lefel 4 ILM mewn Rheoli
• Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a TGCh
• Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr

Cynnwys dangosol a dull asesu:

• Sgiliau Astudio
• 8625-400 Deall Rôl Rheoli i Wella Rheoli Perfformiad (2 ddiwrnod yn y coleg ac aseiniad ysgrifenedig)
• 8625-409 Rheoli Datblygiad Personol (1 diwrnod yn y coleg ac aseiniad ysgrifenedig)
• 8625-417 Rheoli a Gweithredu Newid yn y Gweithle (4 diwrnod yn y coleg ac aseiniad ysgrifenedig)
• 8625-334 Deall a Meithrin Perthnasau yn y Gweithle (1 diwrnod yn y coleg ac aseiniad ysgrifenedig)
• 8625-412 Rheoli Cyfarfodydd (asesiad yn y gweithle)
• 8625-403 Rheoli Risgiau yn y Gweithle (asesiad yn y gweithle)
• 8625-406 Datblygu eich Dulliau Arwain (asesiad yn y gweithle)

Asesir pob agwedd arall gyda chi yn y gweithle.
Er mwyn cofrestru ar gyfer y rhaglen hon, mae’n rhaid i chi:

• Weithio mewn swydd addas, ac yn byw neu weithio yng Nghymru
• Bod â safon llythrennedd a rhifedd – canfyddir hyn wrth gofrestru gan ddefnyddio holiadur diagnostig
• Gweithio mewn swydd addas er mwyn gallu casglu tystiolaeth.
• Cael cymorth gan eich cyflogwr ar gyfer ymweliadau NVQ yn eich gweithle
Cyflwynir Diploma ILM mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli yn bennaf drwy gael eich rhyddhau o’r gwaith i ddod i’r coleg am 8 diwrnod a byddwch yn cwblhau aseiniadau ysgrifenedig a osodwyd gan ILM.

Bydd yr agweddau sy’n weddill yn cael eu cyflwyno a’u hasesu trwy weithgareddau un-i-un yn y gweithle gyda’ch asesydd NVQ penodedig.
Efallai eich bod yn dymuno astudio cymwysterau Lefel 5 ILM
Mae’r rhaglen hon yn cael ei hariannu’n llawn, gyda’r ddealltwriaeth fod holl elfennau yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlen 18 mis.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
19/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?