NVQ Diploma Lefel 3 EAL mewn Peirianneg Trydanol ac Electronig

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA51027
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, Dylid cwblhau’r dysgu o fewn oddeutu 24 mis, ond yn dibynnu ar yr amser, yr ymrwymiad a chyfleoedd, gellir ei gwblhau ynghynt. I gyflawni hynny mae angen cefnogaeth LAWN y rheolwyr a’r cwmni.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Dyma Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) dysgu yn y gwaith. Daw’r dystiolaeth y byddwch yn ei chynhyrchu yn uniongyrchol o weithgareddau a thasgau yn y gweithle y byddwch yn ymgymryd â hwy yn eich dyletswyddau Peirianneg arferol.

Llwybrau’r cymhwyster hwn:
Dylunio cylchedau electronig
Rheoli prosesau gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion
Rheoli gosod cylchedau printiedig a chylchedau cysylltiol
Arwain gweithgynhyrchu cydrannau electronig
Arwain gosod cylchedau printiedig a chylchedau cysylltiol
Arwain gosod electroneg
Profi cylchedau electronig
Gweithgynhyrchu newidyddion ac anwythyddion
Gweithgynhyrchu moduron a generaduron trydanol
Gweithgynhyrchu cyfarpar systemau rheoli trydanol
Profi cyfarpar trydanol

Bydd y llwybr ac unedau penodol y cymhwyster hwn yn cael eu dewis a'u cytuno arnynt wrth gofrestru. Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi i sicrhau bod yr unedau cymhwyso yn gyraeddadwy ar gyfer pob unigolyn.
Rhaid bod yn gyflogedig mewn swydd Beirianneg. Mae angen mentor cymwys yn y gweithle i oruchwylio gweithgareddau ac i gynorthwyo gyda datblygiad y dysgwr.
Nid oes unrhyw brofion nac arholiadau.
Bydd pob uned yn cael ei hasesu drwy nifer o ddulliau asesu sy’n gallu cynnwys arsylwi yn y gweithle, adroddiadau ysgrifenedig am y gwaith, ffotograffau a nifer o ddulliau eraill fel y bo’n briodol. Bydd y dystiolaeth yn cael ei chasglu dros gyfnod o amser er mwyn cadarnhau cymhwysedd yr unigolyn.
Bydd hyn yn cefnogi unigolion i fod yn gymwys yn eu maes perthnasol. Gellir symud ymlaen i astudio HNC mewn Peirianneg neu NVQ L4 mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg.
I gael gwybod y costau, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at: cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?