main logo

Diploma Lefel 1 NVQ mewn Perfformio Cyflawni Gweithrediadau

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA06977
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Dylai’r dysgu gael ei gwblhau o fewn oddeutu 12 mis. Fodd bynnag, mae modd ei gwblhau’n gynt yn dibynnu ar amser, ymrwymiad a chyfleoedd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen cefnogaeth lawn y rheolwyr a’r cwmni.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Dyma Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yn y gwaith. Daw’r dystiolaeth y byddwch yn ei chynhyrchu’n uniongyrchol o weithgareddau a thasgau yn y gwaith y byddwch yn ymgymryd â nhw fel rhan o’ch dyletswyddau cynhyrchu gweithgynhyrchu arferol.

Bydd unedau penodol y cymhwyster hwn yn cael eu dewis a chytunir arnynt wrth gofrestru. Bydd dadansoddiad o anghenion hyfforddiant yn cael ei gynnal i sicrhau bod pob unigolyn yn gallu cyflawni pob uned gymhwysedd.
Nid oes arholiadau na phrofion
Bydd pob uned yn cael ei hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau asesu a allai gynnwys arsylwadau yn y gweithle, adroddiadau gwaith ysgrifenedig, lluniau ac amrywiaeth o ddulliau eraill fel y bo’n briodol. Bydd y dystiolaeth yn cael ei chynhyrchu dros gyfnod addas o amser i sicrhau cadarnhau cymhwysedd.
Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio mewn swydd cynhyrchu gweithgynhyrchu. Mae angen mentor cymwys addas i oruchwylio gweithgareddau a chynorthwyo datblygiad y dysgwr.
Bydd y cwrs hwn yn cynorthwyo unigolion i gael cymhwyster addas yn eu maes perthnasol. Gall dilyniant gynnwys symud ymlaen i NVQ L2 mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu sy’n darparu ehangder rôl priodol.
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?