main logo

Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Pobl

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14318
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Dylid cwblhau’r dysgu o fewn 12 mis. (34 wythnos fel arfer). Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
25 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
02 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

CYFLWYNO’R CWRS / CEFNOGAETH GAN DIWTOR:

Dyma raglen a addysgir, gyda chymorth tiwtor ar gyfer aseiniadau ac asesiadau. (rhan-amser, 4 awr yr wythnos). Mae’r rhaglen yn cynnwys:

Unedau gorfodol:
Perfformiad Sefydliadol a Diwylliant ar Waith
Arferion yn Seiliedig ar Dystiolaeth
Ymagweddau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl

Unedau Arbenigol:
Rheoli Perthynas Cyflogaeth
Rheoli Dawn a Chynllunio Gweithlu
Gwobrwyo Perfformiad a Chyfraniad

Ynghyd ag un uned arbenigol arall:
Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd aelodau’r cwrs yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Gyswllt y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu
Nid oes unrhyw arholiadau.

Caiff pob uned ei hasesu trwy amrywiaeth o dasgau asesu a allai gynnwys aseiniadau, astudiaethau achos a dadansoddi ystadegau. Bydd disgwyl i aelodau’r cwrs asesu eu datblygiad eu hunain a chynnal Cofnod Dysgu a gaiff ei gyflwyno a’i adolygu.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i unigolion sydd:

● â’u bryd ar neu’n cychwyn ar yrfa mewn rheolaeth pobl strategol.
● yn gweithio mewn swydd ymarfer pobl ac yn dymuno cyfrannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i helpu i lunio gwerthoedd sefydliadol.
● yn gweithio tuag at neu’n gweithio mewn swydd rheoli pobl.

Felly, fel arfer bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfrifol am weithredu polisïau a strategaethau Ymarfer Pobl a bydd angen iddynt fod â mwy o ben busnes wrth ddatblygu mewnwelediad sefydliadol i’r cyd-destun a’r amgylchedd busnes ehangach.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr feddu ar Radd, neu gymwysterau addysgol lefel TGAU, Safon Uwch neu gymhwyster lefel Sylfaen CIPD (Lefel 3). Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y rheini sydd mewn swydd reoli gyffredinol gyda chyfrifoldebau dros ddatblygu polisi ymarfer pobl strategol.

Cynorthwyo dilyniant gyrfa at swydd broffesiynol mewn Arferion Pobl neu swyddi tebyg. Gellir symud ymlaen o ran cymwysterau at astudiaethau Diploma Uwch Lefel 7 CIPD ar gyfer statws Proffesiynol llawn.
Ffi rhaglen lawn y Diploma Cyswllt yw £2,600.

Yn ogystal, mae’n rhaid i aelodau’r cwrs danysgrifio i aelodaeth CIPD sy’n costio oddeutu £130 yn y flwyddyn gyfredol (yn daladwy yn uniongyrchol i CIPD) – rhoddir manylion am sut y byddwch yn cael aelodaeth myfyrwyr ar ddechrau’r cwrs.

Argymhellir 2 werslyfr a fydd yn costio oddeutu £35.00 yr un (neu £30 yr un fel e-lyfr).
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?