main logo
Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18154
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, 24 mis.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Rhaid i brentisiaid gyflawni pob uned orfodol a phob uned ddewisol.

Unedau gorfodol:

• Ymgynghoriad
• Rhoi siampŵ, cyflyrydd a thrin y gwallt a’r pen
• Torri gwallt gan ddefnyddio ystod o dechnegau i greu amrywiaeth o edrychiadau
• Steilio a gorffen gwallt gan ddefnyddio ystod o dechnegau i greu amrywiaeth o edrychiadau
• Lliwio a goleuo gwallt gan ddefnyddio ystod o dechnegau

Unedau dewisol:

• Pyrmio gwallt
• Triniaethau a thechnegau ymlacio gwallt
• Gwasanaethau estyniadau gwallt
Mae’r cwrs yn gyfuniad o sesiynau theori ac ymarferol. Caiff theori ei chyflwyno a’i hasesu drwy aseiniadau, tasgau ac arholiadau sydd wedi’u gosod yn allanol.

Bydd cleientiaid sy’n talu yn cynnig amgylchedd gwaith realistig i roi gwybodaeth theori ar waith a bydd elfennau ymarferol y cwrs yn cael eu hasesu trwy arsylwi a chwestiynu ar lafar. Trwy hyn bydd dysgwyr yn adeiladu portffolio o dystiolaeth o’r gwaith y maen nhw wedi’i gwblhau.
Bydd disgwyl i ddysgwyr fynd i sesiynau rhyddhau am ddiwrnod ar ddydd Llun 9am – 4pm

Am y rheswm hwn mae’r Sector Gwallt, Torri Gwallt Dynion a Harddwch (HBB) wedi dewis peidio â bod yn rhy ragnodol ynghylch gofynion mynediad. Caiff y darparwr hyfforddiant a’r cyflogwr eu cynghori i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau asesu cychwynnol i nodi unrhyw anghenion cymorth ar gyfer y Prentis o ddechrau’r brentisiaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhai sy’n dechrau yn gallu cwblhau’r rhaglen. Mae’n fanteisiol bod gennych chi brofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant trin gwallt neu dorri gwallt dynion. Mae mynediad i’r Fframwaith Trin Gwallt fel arfer ar lefel Prentisiaeth Sylfaen gyda dilyniant i lefel Prentisiaeth.

Symud ymlaen i wneud Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt Uwch a chreadigol
Cyflogaeth fel steilydd iau neu rôl swydd mewn diwydiannau cysylltiedig â thrin gwallt

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?