Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA18158 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Rhan Amser, 20 wythnos – dydd Llun – 18.00–21.00 Iâl – 13/01/2025 tan 07/07/2025 |
Adran | Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG |
Dyddiad Dechrau | 13 Jan 2025 |
Dyddiad Gorffen | 07 Jul 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae maes diogelwch seiber yn un sy’n tyfu’n gyflym, gyda nifer o gyfleoedd swyddi yn dod i’r amlwg yn fwyfwy aml. Fel y cyfryw, mae hwn yn faes blaenoriaeth uchel i lawer o sefydliadau a chwmnïau.
Rhagwelir twf uchel yn y maes hwn ar gyfer y dyfodol, wrth i bobl a sefydliadau ddod yn fwyfwy cysylltiedig ac yn ddibynnol ar y cysylltiadau hynny ar gyfer holl agweddau eu bywyd digidol.
Wrth i’r rhain i gyd gynyddu, mae’r risg gan fygythiadau a throseddwyr seiber hefyd yn cynyddu, gan godi’r galw am weithwyr proffesiynol diogelwch seiber.
Fel y dywed Cisco – "Bob dydd, mae bygythiadau Seiberddiogelwch yn tyfu o ran cymhlethdod a graddfa. Yn eu cyhoeddiad Adroddiad Risgiau Byd-eang (2021), rhestrodd hyd yn oed Fforwm Economaidd y Byd fethiant seiberddiogelwch ymhlith y 5 risg fyd-eang uchaf, ynghyd â bygythiadau fel tywydd eithafol a chlefydau heintus. Ar yr un pryd, mae sefydliadau ym mhobman yn chwilio am dalent seiberddiogelwch newydd. Ond erbyn 2025, disgwylir i 3.5 miliwn o swyddi seiberddiogelwch ledled y byd aros yn wag oherwydd diffyg ymgeiswyr cymwys.
Mae'r cwrs Hanfodion Seiberddiogelwch 3.0 wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr fel man cychwyn ar gyfer gyrfaoedd seiberddiogelwch. Mae'n rhoi sgiliau gwaith lefel mynediad i fyfyrwyr ym mhob un o'r tri chategori cwrs: Diogelwch Dyfeisiau, Amddiffyn Rhwydwaith a Rheoli Bygythiadau Seiber. Mae'r parthau hyn yn rhoi profiad dysgu integredig a chynhwysfawr ar gyfer rôl Dadansoddwr Siberddiogelwch Iau lefel mynediad. Mae pynciau'r cwrs yn cynnwys bygythiadau ac ymosodiadau seiberddiogelwch, lliniaru bygythiadau, gwendidau mewn protocolau a gwasanaethau rhwydwaith, diogelwch dyfeisiau Linux a Windows, mesurau a phensaernïaeth amddiffyn rhwydwaith cyffredin, bregusrwydd a rheoli risg, ac ymateb i ddigwyddiadau seiberddiogelwch. Mae'r cwrs yn cynnwys labordai ymarferol gan ddefnyddio Peiriannau Rhithwir, gweithgareddau Tracio Pecynnau a phrofiadau labordy sy'n seiliedig ar ymchwil.
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr o sawl oedran a lefel addysg, yn bennaf mewn ysgolion uwchradd, colegau a chyrff anllywodraethol sy'n canolbwyntio ar gyfleoedd ailhyfforddi."
Mae’r cwrs yn gymysgedd o sgiliau theori ac ymarferol, sy’n cael eu datblygu gan y tiwtor mewn cydweithrediad â meddalwedd safon diwydiant a deunyddiau Cisco.
Gall y cwrs hwn eich helpu i helpu’r byd i gymryd rheolaeth dros ei ddata.
Bydd y canlyniad terfynol drwy arholiad ar-lein Cisco gan arwain at Fathodyn Digidol.

Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid, a thrwy arholiad
Mae disgwyl i ddysgwyr fod yn gyfarwydd â defnydd o’r rhyngrwyd, llywio system weithredu PC, a dealltwriaeth sylfaenol o rwydweithio
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol a’r offer i chi i’ch helpu i ddechrau gyrfa mewn Seiberddiogelwch. O Cisco – “Mae Hanfodion Seiberddiogelwch 3.0 wedi’i gynllunio i helpu addysgwyr i baratoi myfyrwyr i gymryd y cam cyntaf ar eu taith gyrfa seiberddiogelwch. Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall myfyrwyr ddod o hyd i swyddi fel Dadansoddwr Seiberddiogelwch Iau, Technegydd Seiberddiogelwch, Cymorth Seiberddiogelwch, Arbenigydd Seiberddiogelwch, neu help Desg Gymorth Haen 1.”
£299
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.