Trosolwg o’r Cwrs

Power BI yw datrysiad Deallusrwydd Busnes Microsoft ar gyfer dadansoddi data a delweddu a rhannu data. Mae'n eich galluogi i ddatblygu adroddiadau a dangosfyrddau rhyngweithiol yn gyflym a rhannu delweddau dylanwadol gyda chwsmeriaid neu'ch tîm. Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i'r feddalwedd, sut i'w defnyddio orau, a'r ystod o gymwysiadau posibl a allwch eu defnyddio yn eich sefydliad.

Gan ddechrau gyda sut i fewnforio data i Power BI o wahanol fformatau ffeil a chronfeydd data, byddwch chi wedyn yn symud ymlaen i archwilio gwahanol dechnegau delweddu a thechnegau hidlo. Nesaf, byddwch chi’n canolbwyntio ar ddeall a gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o siart a'r data y gellir eu defnyddio i'w cynrychioli. Yn olaf, byddwn ni’n dangos i chi sut i hidlo ac amlygu darnau penodol o wybodaeth i wella cyflwyniad eich negeseuon allweddol.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu

● Beth ydy Power BI?
○ Cyflwyniad
○ Amlinelliad ac Amcanion
● Bwrdd Gwaith Power BI
● Mewnforio ffeiliau (Cael Data)
● Perthnasoedd Data
○ Gosod Perthnasoedd Data
○ Gweld Perthnasoedd
○ Golygu Perthnasoedd
● Creu Delweddau a Dangosfyrddau Rhyngweithiol
○ Siartiau Cylch, Llinell a Chyfuniad
○ Gweithio gyda Matricsau
○ Gweithio gyda Chardiau
○ Data Geo
○ Categoreiddio Data a Mapiau
○ Tablau a Fformatio Amodol
○ Mapiau a Data Daearyddol
○ Cardiau KPI
● Fformatio Delweddau
○ Hidlo Data
○ Meddalwedd ‘slicer’
○ Hidlau Lefel Delweddu
○ Hierarchaethau a Hierarchaethau Ailddefnyddiadwy
○ Ymchwilio’n fanwl yn ôl dyddiad
○ Golygu Rhyngweithiadau Rhwng Siartiau
● Cyfrifo Data gan ddefnyddio DAX (bwrdd gwaith yn unig)
○ Creu colofn wedi'i chyfrifo
○ Cwblhau Fformiwlâu DAX
● Rhannu Adroddiadau a Dangosfyrddau

Ydych chi eisiau creu dadansoddiadau data a delweddiadau effeithiol i helpu'ch busnes i symud ymlaen yn ei nodau yn hyderus? Os felly, dyma’r cwrs ar eich cyfer chi!
Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ac eithrio bod yn gyfarwydd â gwaith safonol cyfrifiadur a systemau meddalwedd safonol – fodd bynnag, mae profiad blaenorol neu fod yn gyfarwydd â systemau TG, Excel, a busnes cyffredinol yn ddymunol.

Byddwch chi’n dysgu’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich nodau a bydd yn rhoi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen i lwyddo.
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r offer angenrheidiol i’ch helpu chi i ddysgu sut i ddeall sut i ddefnyddio meddalwedd delweddu data
£125
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?