main logo

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14100
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Mae’r cwrs hwn yn cael ei addysgu dros wyth sesiwn, fel arfer un bob dydd am bythefnos.
Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno wyneb yn wyneb yn Ysgol Fusnes Llaneurgain o 9.30 i 4pm

Bydd angen amser ar yr ymgeiswyr hefyd I weithio ar eu haseiniadau y tu allan i’r sesiynau hyfforddi. Mae angen cwblhau aseiniad ar gyfer pob uned cyn y sesiwn nesaf sydd wedi’I threfnu, felly bydd angen I ymgeiswyr ystyried hyn wrth drefnu eu hamser a chofrestru ar y cwrs.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
21 Feb 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli, wedi’i brandio gan y Sefydliad Arwain a Rheoli, wedi’i hachredu gan City and Guilds.

Astudir saith uned:

Uned 341 Arwain a Chymell Tîm
Uned 300 Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau
Uned 312 Deall Rheoli Gwrthdaro yn y Gweithle
Uned 307 Rhoi Sesiynau Briffio a Gwneud Cyflwyniadau
Uned 323 Deall Rheoli Perfformiad
Uned 311 Datblygu Eich Hun ac Eraill
Uned 328 Deall Sut I Arwain Cyfarfodydd Effeithiol
Saith aseiniad ysgrifenedig, wedi eu gosod gan ILM. Nid oes arholiadau.

Bydd cymorth ar gael I ymgeiswyr er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cyflawni’r cymhwyster yn llwyddiannus trwy ddefnydd o adnoddau ar Google Classroom a thiwtorialau ychwanegol ar-lein os oes angen.
Rheolwyr rheng flaen brofiadol gweithredol, darpar reolwyr rheng flaen neu arweinwyr tîm.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gefnogi darpar reolwyr rheng flaen neu reolwyr rheng flaen bresennol gyda’u datblygiad proffesiynol wrth arwain a rheoli tîm.

Bydd dysgwyr llwyddiannus yn gallu symud ymlaen at Ddyfarniad neu Dystysgrif Lefel 4 neu 5 ILM mewn Arwain a Rheoli.
£940
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?