Dyfarniad Lefel 2 mewn Cyflwyniad i Godio Python

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18247
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 15 wythnos – ar ddydd Mawrth – 18:00-21:00
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
04 Feb 2025
Dyddiad Gorffen
10 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sut i godio? Oes gennych chi ddiddordeb mewn rhaglennu ac yr hoffech wybod o beth y mae rhaglenni meddalwedd wedi’u gwneud, ond erioed wedi bod yn siŵr lle i ddechrau?

Dyma’r cwrs i CHI!

Nod y cwrs Cyflwyniad i Godio Python yw eich cyflwyno i gysyniadau sylfaenol datblygu meddalwedd, a’r pŵer sydd ganddynt i helpu i siapio’r amgylcheddau digidol sydd o’n cwmpas bob dydd.

Ar ddiwedd y cwrs hwn byddwch yn gallu ysgrifennu rhaglen, ei mireinio, ei phrofi, a’i gweld yn gweithio. Byddwch yn dysgu rheolau iaith rhaglennu a sut i ysgrifennu cod i ddatblygu rhaglen lwyddiannus gan ddefnyddio’r iaith Python.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol oni bai am fod yn gyfarwydd â gweithrediadau safonol cyfrifiadur - dysgwch y sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich nodau ac i roi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Mae’r cwrs yn dyfarnu Dyfarniad Lefel 3 Cymwysterau Gateway mewn Rhaglennu Cyfrifiadur.

Canlyniadau Dysgu’r Uned
1. Deall egwyddorion rhaglennu
2. Gallu dylunio rhaglen mewn ymateb i friff cleient
3. Gallu datblygu rhaglen gan ddefnyddio iaith raglennu sy’n seiliedig ar destun
4. Gallu profi, mireinio, cofnodi ac adolygu’r rhaglen

Mae'r cymhwyster uned sengl hwn wedi'i gynllunio i ddysgwyr ddysgu am egwyddorion rhaglennu cyfrifiadurol i ddeall sut mae rhaglennu'n gweithio. Byddwch yn datblygu sgiliau rhaglennu testun i ddylunio a datblygu eich rhaglen gyfrifiadurol eich hun.
Asesu parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid. Asesiad ffurfiol trwy bortffolio tystiolaeth
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ac eithrio bod yn gyfarwydd â gwaith safonol cyfrifiadur a systemau meddalwedd safonol – fodd bynnag, mae profiad blaenorol neu gyfarwydd-deb â systemau TG a busnes cyffredinol yn ddymunol.

Byddwch yn dysgu’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich nodau a bydd yn rhoi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen i lwyddo.
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r offer angenrheidiol i chi i’ch helpu i ddysgu sut i godio’n llwyddiannus
£285
Lawrlwythiadau Defnyddiol

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?