main logo

Gwobr lefel 2 am hyfedredd mewn sgiliau diwydiant dofednod a chig

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA07853
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Dyfarniad yw’r cymhwyster hwn, a bydd angen cyflawni 10 credyd.
Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 6-12 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio yn bennaf ar gyfer dysgwyr yn y diwydiant cig a dofednod sydd eisiau meithrin sgiliau a gwybodaeth alwedigaethol ganolradd yn y gwaith. Mae’r cymhwyster yn darparu ystod eang o ddewis mewn technegau prosesu â llaw neu awtomatig, neu sgiliau dosbarthu, gwasanaeth neu fanwerthu i atgyfnerthu cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol gan gynnwys:
Gweithiwr gwalfa/lladd-dy
Gweithiwr prosesu cig a dofednod
Gweithiwr bwtsiera
Gweithiwr pecynnu a dosbarthu cig a dofednod
Gweithiwr gwasanaethau a gwerthu cig a dofednod
Gweithiwr sicrhau ansawdd cig
Mae’r cymhwyster hwn yn ymdrin â sgiliau hanfodol mewn ystod o feysydd eang megis: gweithredu peiriannau prosesu cig neu ddofednod, tynnu esgyrn o gig, trimio cig, paratoi cynhyrchion sy’n seiliedig ar gig, pecynnu, gwasanaeth bwtsiera a gweithrediadau manwerthu.
Gall myfyrwyr ddewis o ystod helaeth o sgiliau gorfodol ym meysydd prosesu, dosbarthu, gwasanaethau a manwerthu cig a dofednod.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gofynion gweithio mewn amgylchedd diogel. Cynhelir asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol, ond mae rhaid iddynt fod o fewn amser penodol.
Gwahoddir dysgwyr addas pob oedran i ymuno â’r cwrs unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae hi’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhy fach i’w gynnwys yn y fframwaith prentisiaeth Bwyd a Diod ond gellir ei ddefnyddio fel hwb i symud ymlaen i gymwysterau uwch tebyg megis:
● Tystysgrif Lefel 2 Hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, Rhagoriaeth mewn Gweithgynhyrchu Bwyd, Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?