City & Guilds Lefel 5 Tystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA15225
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Rhan-amser dros 12 mis (mae’n bosib cwblhau’r cwrs mewn cyfnod byrrach o drafod hynny gyda’ch tiwtor).

8 x sesiwn 4 awr o hyd, ac yna tiwtorialau a sesiynau ymarferol annog/mentora.

Mae dysgu dan arweiniad wedi ei gynnwys hefyd, lle mae dysgwyr yn cael deunyddiau i’w darllen, eu hadolygu a’u hystyried.

Adran
Hyfforddi a Mentora
Dyddiad Dechrau
07 Feb 2025
Dyddiad Gorffen
26 Sep 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y bobl hynny sydd â chyfrifoldeb ar gyfer annog a/neu fentora effeithiol fel rhan o’u swydd mewn cyd-destun sefydliadol neu ddiddordeb mewn ennill cymhwyster i gynorthwyo datblygiad personol ar lefel 5. Er enghraifft, ennill cymhwyster ffurfiol i ategu arferion presennol.

Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n dymuno symud i swydd annog a/neu fentora neu ddechrau gyrfa fel anogwr neu fentor llawrydd.

Buddion i unigolion:

Gallu asesu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch ymddygiadau eich hun fel anogwr a mentor
Gwybod sut i reoli’r broses annog neu fentora mewn cyd-destun sefydliadol
Gwella eich dealltwriaeth o sut mae’r cyd-destun sefydliadol yn gallu effeithio ar annog neu fentora
Cynllunio, darparu a gwerthuso eich gwaith annog a mentora
Cynllunio eich datblygiad yn y dyfodol ym maes annog neu fentora

Buddion ar gyfer cyflogwyr:

Sicrhau bod gan yr unigolion rydych chi’n datblygu fel anogwyr a mentoriaid effeithiol y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnyn nhw
Datblygu diwylliant annog a mentora fel bod unigolion yn gallu gwella eu perfformiad a’u cynhyrchedd sefydliadol

Aseiniad ysgrifenedig tua 5000-6000 o eiriau.
18 awr o annog neu fentora sy’n cynnwys adfyfyrio’n ysgrifenedig.
Arsylwad o sesiwn annog neu fentora.
O leiaf 2 sesiwn dan oruchwyliaeth.
Adroddiad adfyfyriol o’r broses ddysgu.

Mae peth profiad a/neu gymhwyster yn ddefnyddiol, ond nid yw’n ofyniad penodol ar gyfer y cymhwyster.

Rydym yn argymell eich bod yn cael sgwrs gyda thiwtor wrth wneud cais i sicrhau eich bod yn gallu bodloni gofynion y cymhwyster hwn.

Gallai’r cymhwyster hwn ddarparu cyfleoedd i symud ymlaen i ennill cymwysterau eraill fel:

Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM ar gyfer Anogwyr a Mentoriaid Gweithredol ac Uwch
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM ar gyfer Goruchwylwyr Annog
Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM mewn Arwain a Rheoli
£875
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?