main logo

Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Addysg a Hyfforddi (QCF)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14712
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, 12 wythnos. Am ddyddiadau cyrsiau cysylltwch â Choleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at jeanette.edwards@cambria.ac.uk
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli, Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
14 Jan 2025
Dyddiad Gorffen
29 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi cipolwg ar rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol.

Gall y cymhwyster hwn eich helpu i symud ymlaen mewn rolau addysgu/hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes. Mae’r rhain yn cynnwys:

● Sefydliadau Sector Cyhoeddus

● Sefydliadau Sector Preifat

● Addysg Bellach, Addysg Oedolion ac Addysg yn y Gymuned.

(Uned 301) Deall rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi’r dysgwr i ddeall rôl a chyfrifoldebau athro a’r berthynas rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol mewn addysg a hyfforddiant. Mae'n cynnwys cyfrifoldeb am gynnal amgylchedd dysgu diogel a chefnogol. [3 credyd]


(Uned 302) Deall a defnyddio dulliau addysgu a dysgu cynhwysol mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi'r dysgwr i ddeall a defnyddio dulliau addysgu a dysgu cynhwysol. Mae'n cynnwys sut i greu amgylchedd dysgu sy'n ennyn diddordeb ac sy'n ysgogi a gallu cynllunio, cyflwyno a gwerthuso'r dulliau sy’n cael eu defnyddio. [6 credyd]


(Uned 305) Deall asesu mewn addysg a hyfforddiant

Galluogi'r dysgwyr i ddeall sut mae gwahanol fathau a dulliau asesu yn cael eu defnyddio. Mae'n cynnwys ffyrdd o gynnwys dysgwyr mewn asesu a gofynion ar gyfer cadw cofnodion effeithiol.
Mae hefyd yn cynnwys meicro-ddysgu ymarferol o 30 munud i gyfoedion ar bwnc wedi’i ddewis o'ch arbenigedd pwnc eich hun. [3 credyd]


Er mwyn ennill y Dyfarniad Lefel 3 llawn mewn Addysg a Hyfforddiant yn llwyddiannus, rhaid i ddysgwyr ennill y 12 credyd.
Bydd dysgwyr yn cynhyrchu Portffolio o Dystiolaeth yn cynnwys 3 aseiniad ysgrifenedig (ar gyfer unedau 301, 302 a 305) ac aseiniad ymarferol, h.y. dysgeidiaeth ficro yn cael ei gyflwyno i gyfoedion o 20 munud (uned 302).
Nid oes unrhyw ofynion mynediad i’r rhaglen, er y bydd angen i bob dysgwr gymryd rhan yn asesiadau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol WEST


Cysylltwch â Jeanette Edwards i drafod y rhaglen nesaf a sut i wneud cais yn jeanette.edwards@cambria.ac.uk
Gall y cymwysterau hyn eich helpu i symud ymlaen mewn rolau addysgu/hyfforddi mewn ystod eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes. Mae’r rhain yn cynnwys:

Sefydliadau sector cyhoeddus
Sefydliadau yn y sector preifat
Addysg Bellach, Addysg Oedolion a Chymunedol
£560

Gwerslyfrau Cwrs – Amanda Turner a Joanne Whiting, Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant, City & Guilds, Llundain, 2014. (ISBN 978 0 85193 294 1) ac Ann Gravells, Y Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant, 2014 (ISBN 978-1473912212 )

Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio darllen ehangach, y tu hwnt i werslyfrau’r cwrs.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?