Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y fframwaith hwn. Er hynny, rydyn ni’n yn argymell bod gan yr ymgeisydd TGAU radd G neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) i gael lle ar gwrs Brentisiaeth Lefel 2 mewn UCD.
Ar gyfer Prentisiaeth Lefel 3 mewn UCD rydyn ni’n argymell bod gan yr ymgeisydd TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth).
Ar gyfer Prentisiaeth Lefel 4 mewn UCD, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am raddau TGAU da (A*-C) mewn Saesneg a Mathemateg a chymwysterau lefel A perthnasol o leiaf er mwyn cael mynediad i swydd UCD.
Fodd bynnag, nid yw’r argymhellion hyn yn hanfodol. Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol. Nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy UCD sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Mae’r brentisiaeth Lefel 3 mewn UCD yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus symud ymlaen yn eu hastudiaethau i gymhwyster lefel 4 a gradd mewn UCD neu raglenni lefel gradd gysylltiedig. Gallent hefyd symud ymlaen yn eu swydd a pharhau i ddysgu trwy ymgymryd â chymwysterau gwerthwr ychwanegol mewn dylunio cynnwys ac offer a thechnegau dosbarthu.
Mae Cyllid Prentisiaeth ar gael.
I gael gwybod y gost, cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at
cyflogwyr@cambria.ac.uk