Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y fframwaith hwn. Er hynny, rydym yn argymell bod gan yr ymgeisydd radd G neu uwch TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) i gael lle ar Brentisiaeth UCD Lefel 2. Ar gyfer Prentisiaeth UCD Lefel 3 rydym yn argymell bod gan yr ymgeisydd TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth). Ac ar gyfer Prentisiaeth UCD Lefel 4, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr angen graddau TGAU da (A*-C) mewn Saesneg a Mathemateg a lefelau A perthnasol o leiaf er mwyn cael mynediad i swydd UCD. Fodd bynnag, nid yw’r argymhellion hyn yn hanfodol. Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol, ond nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy UCD sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.