Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr C0048495

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18304
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 21 mis
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Prentisiaeth Lefel 3 mewn Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (UCD) wedi’i chynllunio gyda chyflogwyr yng Nghymru i ddarparu gweithwyr â’r sgiliau UCD sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu swydd. Mae'r rhaglen Brentisiaeth hon wedi'i chynllunio i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i ddiwallu anghenion sgiliau UCD iau sy'n hanfodol i sicrhau bod gweithwyr yn gallu manteisio'n llawn ar gyfleoedd yn y gweithle.

Mae'r cyfrifoldebau UCD iau canlynol yn dod o dan gwmpas y fframwaith hwn:

• Asiantaethau dylunio arbenigol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr sy'n darparu gwasanaethau sy'n cael eu gyrru gan ddefnyddwyr i’w cleientiaid.
• Rhaid i sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat sy'n darparu gwasanaethau sicrhau eu bod yn ymgorffori’r egwyddorion dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn eu gweithrediadau dydd i ddydd.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y fframwaith hwn. Er hynny, rydyn ni’n yn argymell bod gan yr ymgeisydd TGAU radd G neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) i gael lle ar gwrs Brentisiaeth Lefel 2 mewn UCD.

Ar gyfer Prentisiaeth Lefel 3 mewn UCD rydyn ni’n argymell bod gan yr ymgeisydd TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth).

Ar gyfer Prentisiaeth Lefel 4 mewn UCD, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am raddau TGAU da (A*-C) mewn Saesneg a Mathemateg a chymwysterau lefel A perthnasol o leiaf er mwyn cael mynediad i swydd UCD.

Fodd bynnag, nid yw’r argymhellion hyn yn hanfodol. Efallai y bydd gan ymgeiswyr brofiad neu gymwysterau blaenorol mewn technolegau digidol. Nid yw hyn yn orfodol gan y bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cyflwyno rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar gymwysterau cyfredol cymeradwy UCD sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Asesiad yn y gwaith
Mae’r brentisiaeth Lefel 3 mewn UCD yn cynnig cyfle i brentisiaid llwyddiannus symud ymlaen yn eu hastudiaethau i gymhwyster lefel 4 a gradd mewn UCD neu raglenni lefel gradd gysylltiedig. Gallent hefyd symud ymlaen yn eu swydd a pharhau i ddysgu trwy ymgymryd â chymwysterau gwerthwr ychwanegol mewn dylunio cynnwys ac offer a thechnegau dosbarthu.
Mae Cyllid Prentisiaeth ar gael.
I gael gwybod y gost, cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at
cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?