Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18314
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 15 wythnos – ar ddydd Mercher – 18:00-21:00
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
05 Feb 2025
Dyddiad Gorffen
11 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi’n chwarae gemau fideo? Ydych chi erioed wedi meddwl sut maen nhw’n cael eu creu? Hoffech chi ddysgu sut i wneud golygfeydd ar gyfer lefel mewn gêm cyfrifiadur?

Os felly, dyma’r cwrs i chi!

Bydd y cwrs Cyflwyniad i Greu Gemau Cyfrifiadur yn dangos hanfodion creu gemau digidol i chi. Nod y cwrs yw dangos hanfodion creu gemau digidol i chi, cymhwyso technegau gwahanol y mae’r rhan fwyaf ohonom sydd gyda diddordeb mewn gemau wedi gweld dro ar ôl tro.

Defnyddir y feddalwedd hon i greu amgylcheddau 3D, ac fel y cyfryw mae hefyd yn berthnasol i bobl neu gwmnïau sydd â diddordeb mewn pethau fel Realiti Rhithwir a datblygiad Efaill Digidol.

Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu defnyddio'r technegau a ddangosir, o fewn rhaglen Unreal Engine 5. Mae Unreal Engine yn ddarn o feddalwedd rhad ac am ddim sy'n eiddo i Epic Games. Byddwch chi’n defnyddio’r technegau i greu saethwr person cyntaf lle byddwch chi hefyd yn ychwanegu Deallusrwydd Artiffisial i elyn. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i greu bar iechyd chwaraewr, gosod gwrthrychau peryglus sy’n gallu peryglu iechyd chwaraewr, casglu eitemau casgladwy a llwythi o dechnegau creu gemau defnyddiol.

Mae’r cwrs yn Ddyfarniad Lefel 2 Cymwysterau Gateway mewn Dylunio a Datblygu Gemau.

Canlyniadau Dysgu’r Uned
1. Gallu deall gwahanol fathau o gemau cyfrifiadur
2. Gallu dylunio gêm cyfrifiadur mewn ymateb i friff cleient
3. Gallu datblygu a phrofi gêm cyfrifiadur
4. Gallu gwerthuso gêm cyfrifiadur

Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn datblygu syniad cychwynnol i gêm 2D neu 3D. Byddwch yn dangos sut byddai’r gêm yn edrych, yn ogystal â manyleb ddylunio sy’n dogfennu pob agwedd o’r gêm. Yna byddwch yn creu asedau ar gyfer injan y gêm ac yn ychwanegu rhyngweithio i greu gêm mae modd ei chwarae. Mae’r uned hefyd yn galluogi dysgwyr i gael adborth ar eu gwaith i’w ystyried a datblygu ymhellach.
Asesu parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid. Asesiad ffurfiol trwy bortffolio tystiolaeth
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ac eithrio bod yn gyfarwydd â gwaith safonol cyfrifiadur a systemau meddalwedd safonol – fodd bynnag, mae profiad blaenorol neu gyfarwydd-deb â systemau TG a busnes cyffredinol yn ddymunol.

Byddwch yn dysgu’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich nodau a bydd yn rhoi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen i lwyddo.
Bydd y cwrs hwn yn darparu llawer o sgiliau angenrheidiol i gynorthwyo gyda chael gwaith yn y cyfryngau creadigol a sectorau datblygu gemau. Mae hyn yn cynnwys datblygu gemau 3D ac amgylcheddau 3D yn gyffredinol. Mae hefyd yn cael ei weld yn cael ei ddefnyddio fwyfwy yn y sectorau peirianneg a gweithgynhyrchu, mewn llwyfannau Realiti Rhithwir a chreu Efaill Digidol.
£285
Lawrlwythiadau Defnyddiol

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?