Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18318
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 15 wythnos – Dydd Iau 18:00-21:00.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
06 Feb 2025
Dyddiad Gorffen
12 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi erioed wedi bod eisiau adeiladu eich cymwysiadau symudol eich hun? Oes gennych chi ddiddordeb mewn dylunio a datblygu apiau gwe, ond hen wybod yn iawn ble i ddechrau?

Mae'r cwrs hwn i CHI!

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut mae apiau'n cael eu gwneud? Hoffech chi ddysgu sut i adeiladu ap ar gyfer eich diddordebau eich hun?

Os felly, dyma’r cwrs i chi!

Mae apiau symudol ym mhob man mewn bywyd modern, a gellir eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth, ar gyfer adloniant, ffitrwydd, masnach, a llawer mwy. Mae'n fwyfwy anodd dychmygu nad oes gan unrhyw fusnes eu hap eu hunain erbyn hyn.

Nod y cwrs hwn yw dangos hanfodion dylunio a datblygu apiau symudol gan ddefnyddio cymysgedd o C ++, Java, XML, ac egwyddorion dylunio apiau.

Mae'r cwrs yn dyfarnu Dyfarniad Lefel 2 Cymwysterau Porth mewn Datblygu Apiau Symudol.

Deilliannau Dysgu’r Uned
1. Deall nodweddion apiau symudol
2. Gallu cynhyrchu manyleb ddylunio ar gyfer ap symudol at ddiben a chynulleidfa penodol
3. Gallu datblygu ap symudol i fodloni gofynion manyleb ddylunio
4. Gallu profi'r ap symudol yn erbyn y fanyleb ddylunio

Mae'r cymhwyster uned sengl hwn wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr i ymchwilio i nodweddion a defnyddiau apiau symudol. Byddwch hefyd yn dylunio, datblygu a phrofi eich ap symudol eich hun yn unol â manyleb ddylunio.

Asesu parhaus trwy dasgau a monitro gan diwtoriaid. Asesu ffurfiol trwy bortffolio o dystiolaeth.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ac eithrio bod yn gyfarwydd â dulliau safonol o weithio cyfrifiadur a systemau meddalwedd safonol – fodd bynnag, mae profiad blaenorol neu fod yn gyfarwydd â systemau TG a busnes cyffredinol yn ddymunol.

Dysgu’r sgiliau technegol sydd eu hangen arnoch i’ch helpu i gyrraedd eich nodau a’ch darparu gyda’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Mae’r cwrs yn eich darparu gyda’r wybodaeth a’r offer angenrheidiol i’ch helpu i ddysgu sut i adeiladu apiau symudol yn llwyddiannus.

£199
Lawrlwythiadau Defnyddiol

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?