main logo

Hyfforddiant Technoleg Fodiwlaidd Gwella Busnes

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA03899
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
, I weddu i ofynion y cwmni, 5 diwrnod llawn o hyfforddiant gyda chytundeb y cwmni. Mae’n hanfodol bod pob sesiwn yn cael ei mynychu. Er mwyn cyflawni hyn mae angen cefnogaeth LAWN y rheolwyr a’r cwmni, gan fod prif elfennau’r cwrs hwn yn dibynnu ar gymhwyso technegau gwella busnes gyda phrosesau gwaith go iawn a byw.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

DARPARIAETH / CYMORTH TIWTOR -
Rhaglen ran-amser yw hon, sy’n cael ei chyflwyno’n gyfan gwbl yn y gweithle. Mae 5 gweithdy yn cael eu cyflwyno dros gyfnod byr o amser yn ymdrin â gwybodaeth, dealltwriaeth a chymhwyso technegau gwella busnes. Yn ystod y gweithdai hyn nodir amrywiaeth o brosiectau gwella a all gael effaith gadarnhaol ar fesurau Ansawdd, Cost a Chyflenwi ar gyfer y busnes. Bydd disgwyl i ddysgwyr gyfrannu at y rhain ac adfyfyrio arnynt.

Mae pynciau’r cwrs hwn yn cynnwys:
-Cydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion sefydliadol
-Cyfrannu at gyfathrebu’n effeithiol a gweithio’n effeithiol mewn tîm
-Cyfrannu at gymhwyso trefniadaeth gweithle
-Cyfrannu at gymhwyso technegau gwelliant parhaus (kaizen)
-Cyfrannu at ddatblygu rheolaeth weledol a safoni
-Cymhwyso dadansoddiad proses llif
-Cyfrannu at ddatrys problemau yn ymarferol
Nid oes unrhyw arholiadau na phrofion.
Mae mynychu sesiynau hyfforddi diwrnod llawn a rhyngweithio â chydweithwyr yn ofynnol.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad. Mae’r dyfarniad hwn yn ddelfrydol os ydych chi’n gweithio neu’n dymuno gweithio mewn amgylchedd gwella busnes.
Efallai bydd gennych chi ryw faint o wybodaeth a sgiliau sylfaenol yn y diwydiant. Rydych chi eisiau cynyddu eich sgiliau a’ch gwybodaeth a’r prosesau dan sylw i wella eich rhagolygon gyrfa neu symud ymlaen i astudio ymhellach.
Yn ogystal â datblygu yn eich swydd bresennol, gall hyn eich galluogi i symud ymlaen i’r NVQ Lefel 2, 3 neu 4 mewn Technegau Gwella Busnes.
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?