Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18347
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Caiff y cwrs ei gyflwyno dros 2 ddiwrnod gydag wythnos o leiaf rhwng bob sesiwn.

Bydd yn cael ei gyflwyno yn Ysgol Fusnes Safle Llaneurgain.

Mae’r cwrs hwn yn agored i gwmnïau/cyflogwyr sydd eisiau cadw lle i’w gweithwyr ar y cwrs, rydym hefyd yn cynnig cyflwyno cyrsiau o fewn eich safleoedd a chyflwyno i grwpiau o 8 neu ragor.


I gael rhagor o fanylion cysylltwch â ymholiadau@cambria.ac.uk


******Sylwch, mae angen i chi dalu pythefnos cyn eich dyddiad dechrau fel bod digon o amser i chi gofrestru.
Adran
Iechyd Meddwl
Dyddiad Dechrau
14 Jan 2025
Dyddiad Gorffen
21 Jan 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion (Cymru) hwn yn seiliedig ar Ganllawiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl rhyngwladol. Mae cynnwys y cwricwlwm yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda mewnbwn gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, ymchwilwyr ac eiriolwyr sy'n ddefnyddwyr.

Fel cyfranogwr, byddwch yn ennill gwybodaeth fanylach am fathau o salwch meddwl a’u hymyriadau, gwybodaeth am strategaethau cymorth cyntaf priodol yn ogystal â magu’r hyder i helpu unigolion sy’n profi problem iechyd meddwl. Mae'r pynciau sy’n cael eu trafod yn cynnwys:

Datblygiad problemau iechyd meddwl
● Iselder
● Problemau gorbryder
● Seicosis
● Problemau Defnyddio Sylweddau

Argyfyngau iechyd meddwl
● Meddyliau ac ymddygiad hunanladdol
● Hunan-niwed nad yw'n hunanladdol
● Pyliau o banig
● Digwyddiadau trawmatig
● Cyflyrau seicotig ddifrifol
● Effeithiau difrifol o ddefnyddio alcohol neu gyffuriau eraill
● Ymddygiad ymosodol
Amherthnasol
Mae’r cwrs hwn yn dysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn. Gwybodaeth yn unig yw’r hyfforddiant hwn ac nid yw profiad gwaith yn hanfodol.
Rhaid i ymgeiswyr fyw neu weithio yng Nghymru
Gall y cwrs hwn ddarparu:

● Gwybodaeth greiddiol a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion (Cymru) yn y gweithle a allai arwain at ragor o gyfleoedd ar gyfer dyrchafiad.
● Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch (e.e. L2 a L3)
Cost – £225 y pen *****Mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i gyflogwyr.
Anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk neu Sally Ewing sally.ewing@cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am gyllid posibl.
‘Cyflogwyr yn unig’.
Lawrlwythiadau Defnyddiol

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?