Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion (Cymru) hwn yn seiliedig ar Ganllawiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl rhyngwladol. Mae cynnwys y cwricwlwm yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda mewnbwn gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, ymchwilwyr ac eiriolwyr sy'n ddefnyddwyr.

Fel cyfranogwr, byddwch yn ennill gwybodaeth fanylach am fathau o salwch meddwl a’u hymyriadau, gwybodaeth am strategaethau cymorth cyntaf priodol yn ogystal â magu’r hyder i helpu unigolion sy’n profi problem iechyd meddwl. Mae'r pynciau sy’n cael eu trafod yn cynnwys:

Datblygiad problemau iechyd meddwl
● Iselder
● Problemau gorbryder
● Seicosis
● Problemau Defnyddio Sylweddau

Argyfyngau iechyd meddwl
● Meddyliau ac ymddygiad hunanladdol
● Hunan-niwed nad yw'n hunanladdol
● Pyliau o banig
● Digwyddiadau trawmatig
● Cyflyrau seicotig ddifrifol
● Effeithiau difrifol o ddefnyddio alcohol neu gyffuriau eraill
● Ymddygiad ymosodol
Amherthnasol
Mae’r cwrs hwn yn dysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn. Gwybodaeth yn unig yw’r hyfforddiant hwn ac nid yw profiad gwaith yn hanfodol.
Rhaid i ymgeiswyr fyw neu weithio yng Nghymru
Gall y cwrs hwn ddarparu:

● Gwybodaeth greiddiol a’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion (Cymru) yn y gweithle a allai arwain at ragor o gyfleoedd ar gyfer dyrchafiad.
● Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch (e.e. L2 a L3)
Cost – £225 y pen *****Mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i gyflogwyr.
Anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk neu Sally Ewing sally.ewing@cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am gyllid posibl.
‘Cyflogwyr yn unig’.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?