main logo

Lefel 2 City & Guilds Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA17970
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Tua 6 – 12 mis
Adran
Gofal Plant, Astudiaethau Plentyndod a Gwaith Chwarae
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster yn cwmpasu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sylfaenol o Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac mae'n adlewyrchu ystod o rolau ac oedrannau gwahanol.
Mae cwblhau'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i:
● ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
● datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ffyrdd o weithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
● datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n llywio arfer effeithiol o fewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
● meddu ar y wybodaeth a'r ddealltwriaeth graidd i gefnogi symud ymlaen i astudiaeth bellach neu gyflogaeth mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster, rhaid i ddysgwyr gyflawni'r pum uned orfodol ganlynol:

● 001 - Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed)
● 002 - Iechyd, Llesiant, Dysgu a Datblygiad
● 003 - Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
● 004 - Diogelu Plant
● 005 - Iechyd a Diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Caiff y cwrs Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd ei asesu drwy un prawf amlddewis wedi’i farcio’n allanol.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster Lefel 1 neu sydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i gymwysterau pellach, gan gynnwys y cymwysterau canlynol yn y gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant i Gymru:

• Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
• Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Mae’r cymhwyster hefyd yn cefnogi cyfleoedd i gyflogaeth.
Am gostau cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?