main logo
Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
MY10334
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Rhan Amser, 24 mis

Rhyddhau o’r gwaith am y dydd yn y coleg (dydd Mercher) 4pm – 7.30pm
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad Gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’n rhaid i brentisiaid gyflawni pob uned orfodol, sy’n cynnwys:

• Ymgynghori
• Golchi, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
• Torri gwallt yn defnyddio technegau torri gwallt dynion i greu amrywiaeth o steiliau
• Steilio a gorffen gwallt dynion
• Siapio gwallt yr wyneb
• Gwasanaethau siafio

Bydd prentisiaid hefyd yn datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy canlynol sy’n rhan o bob uned:

• Ymddygiadau a chyfathrebu
• Arferion gweithio’n ddiogel
• Proffesiynoldeb a gwerthoedd
Mae’r cwrs yn gyfuniad o theori a sesiynau gweithdy ymarferol. Bydd y gwaith theori yn cael ei gyflwyno a’i asesu drwy aseiniadau, tasgau ac arholiadau a osodir yn allanol. Bydd cleientiaid sy’n talu yn cynnig amgylchedd gweithio realistig, lle bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio’r elfennau theori. Bydd elfennau ymarferol y cwrs yn cael eu hasesu drwy arsylwi a chwestiynu ar lafar. Drwy hyn, bydd dysgwyr yn casglu portffolio o dystiolaeth o waith maent wedi’i gwblhau.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn yn gymwys i ddod yn Farbwr Cofrestredig Cenedlaethol (SGRH) gyda’r Cyngor Trin Gwallt a Chymdeithas Barbwyr Prydain. Fel barbwr iau, gall dysgwyr ddechrau gweithio mewn nifer o leoedd gwahanol, gan gynnwys:

– siopau barbwr neu salonau masnachol
– siopau barbwr/salonau Affricanaidd arbenigol
– gweithio’n annibynnol/hunangyflogedig/symud o le i le/gweithio o gartref
– teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau
– gwasanaethau arfog
– gwasanaeth carchardai EF
– llongau mordaith
– ysbytai/cartrefi gofal

Er mai prif ddiben y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth, gall dysgwyr ddewis datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach drwy gwblhau prentisiaeth uwch neu gymhwyster Lefel 3 mewn Trin Gwallt Uwch a Chreadigol.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?