main logo
Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18155
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 24 mis.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae gweithwyr proffesiynol Trin Gwallt Uwch a Chreadigol yn greadigol, angerddol a llawn ysfa, sy’n gweithio heb gael eu goruchwylio, gan reoli nhw eu hunain ac eraill pan fo angen. Bydd dysgwyr yn darparu gwasanaeth o safon, gan weithio i’r safonau uchaf a pharhau i ddatblygu eu sgiliau personol a phroffesiynol. Mae dysgwyr yn cymryd perchnogaeth dros eu gwaith a’u rhestr cleientiaid, yn derbyn cyfrifoldeb, yn rhagweithiol, yn hyblyg ac yn gallu addasu, yn cynllunio eu gwaith a’u hamser; maen nhw’n anelu am ragoriaeth gan gymryd balchder eithriadol yn eu gwaith a'u diwydiant. Bydd dysgwyr yn cyflwyno tueddiadau ffasiwn gwallt, sy'n arddulliau arloesol wedi'u hysbrydoli gan ddelweddau cyfoes a'u creadigrwydd eu hunain, dawn unigol, dychymyg a dehongliad.

Rhaid i ddysgwyr gyflawni pob uned orfodol sy’n cynnwys:

Darparu gwasanaethau ymgynghori â chleientiaid
Gwasanaethau torri uwch a chreadigol
Gwasanaethau steilio a gorffen gwallt creadigol, yn ôl ffasiwn
Darparu gwasanaethau llyfnu a chryfhau
Gwasanaethau lliwio uwch a chreadigol
Defnyddio tueddiadau ffasiwn ar gyfer gwallt, technegau creadigol a manwl i greu casgliad o steiliau gwallt

Trwy gydol y cymhwyster, bydd dysgwyr yn arddangos sgiliau trosglwyddadwy, dyletswyddau, ymddygiadau a sgiliau cyfathrebu, arferion gwaith diogel a’r proffesiynoldeb a’r gwerthoedd sy’n ymwneud â’u swydd.

Rhaid i’r dyletswyddau canlynol gael eu harddangos trwy gydol y cymhwyster hwn:

Arddangos proffesiynoldeb drwy gynnal cyfrinachedd a disgresiwn
Ymchwilio i dueddiadau ffasiwn, gan ddefnyddio’r canlyniadau i greu, cynllunio a hyrwyddo casgliad o steiliau gwallt sy’n eu hadlewyrchu nhw fel unigolyn
Dadansoddi’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddyluniad a chreu'r casgliad o steiliau gwallt, gan gynnwys y gynulleidfa darged
Dylunio ystod o steiliau i greu casgliad o’r steiliau gwallt diweddaraf
Cynnal dulliau gweithio effeithiol a diogel
Defnyddio ac addasu ystod o ganllawiau torri, technegau creadigol a manwl gywir a sgiliau technegol i greu a gwella'r casgliad o steiliau gwallt
Cyflawni gwaith torri manwl gywir a phersonol wedi'i deilwra i nodweddion cleientiaid unigol
Llunio gwasanaethau trosi lliw datblygedig creadigol llawn dychymyg i newid dyfnder a thôn y gwallt
Defnyddio amrywiaeth o dechnegau gorffen a gwisgo creadigol, technegau lliwio datblygedig a chreadigol i wella'r casgliad o steiliau gwallt
Cyflwyno, arddangos a hyrwyddo eu sgiliau trwy eu casgliad o steiliau gwallt yn edrych yn fewnol gan ddefnyddio cyfrwng gweledol
Darparu gwasanaeth cryfhau a llyfnu i gleientiaid
Cynnal ymgynghoriad manwl a dadansoddiad cymhleth o'r gwallt
Defnyddio a chymhwyso'r cynhyrchion, yr offer a'r cyfarpar, yn unol â gofynion cyfreithiol, cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisi salon
Darparu cyngor ar wasanaethau a chynhyrchion yn y dyfodol
Gwerthuso canlyniadau'r gwasanaeth i wella arfer pellach

Mae’r cwrs yn gymysgedd o theori a sesiynau gweithdy ymarferol. Caiff y theori ei chyflwyno a’i hasesu trwy aseiniadau, tasgau ac arholiadau sy’n cael eu gosod yn allanol.

Bydd cleientiaid sy’n talu yn cynnig amgylchedd gwaith realistig i roi gwybodaeth theori ar waith a bydd elfennau ymarferol y cwrs yn cael eu hasesu trwy arsylwi a chwestiynu ar lafar. Trwy hyn bydd dysgwyr yn adeiladu portffolio o dystiolaeth o’r gwaith y maen nhw wedi’i gwblhau.
Am y rheswm hwn mae’r Sector Gwallt, Torri Gwallt Dynion a Harddwch (HBB) wedi dewis peidio â bod yn rhy ragnodol ynghylch gofynion mynediad. Mae’r darparwr hyfforddiant a’r cyflogwr yn cynghori i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau asesu cychwynnol i nodi unrhyw anghenion cymorth ar gyfer y Prentis o ddechrau’r brentisiaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhai sy’n dechrau yn gallu cwblhau’r rhaglen.

Mae’n fanteisiol bod gennych chi brofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant trin gwallt neu dorri gwallt dynion. Mae mynediad i’r Fframwaith Trin Gwallt fel arfer ar lefel Prentisiaeth Sylfaen gyda dilyniant i lefel Prentisiaeth.
I gyflogaeth fel triniwr gwallt neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy’n ymwneud â thrin gwallt.

I addysg uwch fel Gradd Sylfaen mewn Trin Gwallt a Rheoli Salon neu raglenni eraill.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â’r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?