main logo

Diploma Cyswllt Lefel 5 CIPD mewn Dysgu a Datbygu Sefydliadol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14319
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Dylid cwblhau’r dysgu o fewn 12 mis. (34 wythnos fel arfer). Ffoniwch Goleg Cambria ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i gael dyddiadau’r cwrs.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

CYFLWYNO’R CWRS / CEFNOGAETH GAN DIWTOR:

Dyma raglen a addysgir, gyda chymorth tiwtor ar gyfer aseiniadau ac asesiadau. (rhan-amser, 4 awr yr wythnos). Mae’r rhaglen yn cynnwys:

Unedau craidd:
Perfformiad sefydliadol a diwylliant ar waith
Arferion yn seiliedig ar dystiolaeth
Ymagweddau proffesiynol a gwerthfawrogi pobl

Unedau arbenigol:
Cefnogi dysgu cymdeithasol hunangyfeiriedig
Dylunio dysgu a datblygu i greu gwerth
Hwyluso dysgu personol sy’n canolbwyntio ar berfformiad

Ynghyd ag un uned arbenigol arall:
Llesiant yn y gwaith

STATWS AELODAETH CIPD:
Yn ystod y cwrs, bydd aelodau’r cwrs yn gymwys i ymgymryd ag Aelodaeth Myfyriwr y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd aelodau’r cwrs yn gymwys ar gyfer Aelodaeth Gyswllt y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
Nid oes unrhyw arholiadau.

Caiff pob uned ei hasesu trwy amrywiaeth o dasgau asesu a allai gynnwys aseiniadau, astudiaethau achos a dadansoddi ystadegau. Bydd disgwyl i aelodau’r cwrs asesu eu datblygiad eu hunain a chynnal Cofnod Dysgu a gaiff ei gyflwyno a’i adolygu.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n:
● Yn anelu at neu’n dechrau gyrfa mewn dysgu a datblygu sefydliadol.
● Gweithio mewn swydd arferion pobl ac yn dymuno cyfrannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i helpu llywio gwerth sefydliadol.
● Yn gweithio tuag at neu yn gweithio mewn swydd arbenigol dysgu a datblygu uwch.

Fel arfer, bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gyfrifoldeb dros weithredu polisïau a strategaethau Dysgu a Datblygu, ac yn teimlo’r angen i ddod yn fwy meistrolgar mewn busnes wrth ddatblygu gwybodaeth fewnol sefydliadol ar yr amgylchedd a chyd-destun busnes ehangach.

Bydd disgwyl fod gan ymgeiswyr radd, neu gymwysterau addysgol ar lefel TGAU, Safon Uwch, neu gymhwyster lefel Sylfaen CIPD (Lefel 3). Hefyd ystyrir ceisiadau ar gyfer y rheiny sydd mewn swydd reoli gyffredinol sydd â chyfrifoldebau strategaeth dysgu a datblygu sefydliadol.
Cynorthwyo dilyniant gyrfa at Reolwr Dysgu a Datblygu, Rheolwr Talent Sefydliadol neu swyddi tebyg. Gellir symud ymlaen o ran cymwysterau at astudiaethau lefel Uwch CIPD ar gyfer statws Proffesiynol llawn neu ar gyfer cymwysterau rheoli Lefel 6 neu 7 eraill y mae QCF wedi’u cymeradwyo.
Ffi rhaglen lawn y Diploma Cyswllt yw £2,600.

Yn ogystal, mae’n rhaid i aelodau’r cwrs danysgrifio i (neu gynnal) aelodaeth CIPD sy’n costio oddeutu £130 yn y flwyddyn gyfredol (yn daladwy yn uniongyrchol i CIPD) – rhoddir manylion am sut y byddwch yn cael aelodaeth myfyrwyr ar ddechrau’r cwrs.

Argymhellir 2 werslyfr a fydd yn costio oddeutu £35.00 yr un (neu £30 yr un fel e-lyfr).
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?