Unedau Cynnal a Chadw Peirianneg

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA03628
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Dylai’r dysgu cael ei gwblhau o fewn oddeutu 18 mis. Mae’n bosibl eu cwblhau’n gynt yn dibynnu ar yr amser, yr ymrwymiad a chyfleoedd sydd ar gael. Mae angen cefnogaeth LAWN y rheolwyr a’r cwmni i gyflawni hyn.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sydd eisoes wedi cyflawni’r Diploma L3 NVQ mewn Cynnal a Chadw Peirianneg ac sy’n dymuno profi cymhwysedd mewn maes technegol arall.
Dyma Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) dysgu yn y gwaith. Bydd y dystiolaeth y byddwch chi’n ei chynhyrchu yn dod yn uniongyrchol o weithgareddau a thasgau y byddwch chi’n eu cyflawni yn y gweithle fel rhan o’ch dyletswyddau Peirianneg arferol.

Llwybrau o fewn y cymhwyster hwn:
Mecanyddol
Trydanol
Electronig
Pŵer Hylifol
Systemau wedi'u Peiriannu
Cynnal a Chadw Gwasanaethau
Gwasanaethu a Thrwsio Lifftiau
Offeryniaeth a Rheoli

Bydd llwybrau ac unedau penodol y cymhwyster hwn yn cael eu dewis a'u cytuno arnyn nhw wrth gofrestru. Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob dysgwr i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni’r unedau cymhwyso.
Rhaid bod yn gyflogedig mewn swydd Peirianneg. Mae angen mentor â chymwysterau addas yn y gweithle i oruchwylio gweithgareddau a chefnogi datblygiad y dysgwr.
Nid oes unrhyw brofion nac arholiadau.
Bydd pob uned yn cael ei hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu a all gynnwys arsylwadau yn y gweithle, adroddiadau ysgrifenedig am y gwaith, ffotograffau ac amrywiaeth o ddulliau eraill fel y bo’n briodol. Bydd y dystiolaeth yn cael ei chasglu dros gyfnod o amser er mwyn cadarnhau cymhwysedd yr unigolyn.
Bydd hyn yn helpu unigolion i ennill cymwysterau addas yn eu maes perthnasol. Mae’n bosibl symud ymlaen i HNC mewn Peirianneg neu gymhwyster L4 NVQ mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg.
I gael gwybod cost y cwrs, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at:employers@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?