Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18518
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Dau fodiwl
2 awr yr wythnos dros gyfnod o 6 wythnos
Nosweithiau Mercher 6pm – 8pm
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
30 Apr 2025
Dyddiad Gorffen
04 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Gweithdy Makaton Lefel 3 ar gyfer y rhai sydd wedi bod i'r Gweithdy Lefel 2 ac sy'n dymuno symud ymlaen i Lefel 3.

Ar ôl cwblhau’r gweithdy Lefel 3, dylai cyfranogwyr:

● gallu defnyddio arwyddion a symbolau o Gam 1-6 yn ogystal â’r Eirfa Atodol yn eu hamgylchedd bob ddydd yn ogystal â
defnyddio technegau ar gyfer lleoliad, cyfeiriad a symudiad
● bod yn wybodus am y technegau sy'n gwneud gwybodaeth yn hygyrch ac yn ystyrlon i Ddefnyddwyr Craidd
● wedi ennill gwybodaeth am gydrannau arwyddion a sut i'w dadansoddi
● wedi datblygu hyder wrth ddefnyddio arwyddion a symbolau yn gywir ac yn rhugl
● cael gwybod am ragor o Gyrsiau a Gweithdai Hyfforddi Makaton

Dim asesiad ffurfiol Bydd adborth yn cael ei roi yn ystod y sesiynau a bydd tystysgrif presenoldeb yn cael ei rhoi ar ddiwedd y cwrs.
Mae’n hanfodol bod Cyfranogwyr wedi cwblhau’r Gweithdy Lefel 1 a Lefel 2.


Mae’r cwrs yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu sgiliau i symud ymlaen at ragor o gyfleoedd dysgu gyda Choleg Cambria neu ddarparwyr lleol eraill a/neu wella rhagolygon swydd.

Mae’r cwrs yn seiliedig ar sgiliau y bydd unigolion yn gallu eu trosglwyddo i’w bywydau bob dydd a’r gweithle. Bydd rhai o’r sgiliau hyn yn cynnwys cydweithio ag eraill, gweithio’n annibynnol, cyfathrebu’n effeithiol, gwrando gweithredol a datrys problemau.

£40 – mae hyn yn cynnwys Llawlyfr Cyfranogwyr.
Lawrlwythiadau Defnyddiol

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?