Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01618
Lleoliad
Online
Hyd
Llawn Amser, 9 Tachwedd 2025 tan 20 Mehefin 2025
Adran
Dysgu Sylfaen, Iechyd Meddwl, Hyfforddi a Mentora
Dyddiad Dechrau
11 Nov 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi rhwng 16-18 oed ac wedi cael trafferth ymgysylltu ag addysg bellach eleni? Bydd ein rhaglen ar-lein Gwytnwch newydd yn eich galluogi i gael cymorth a gweithdai o gartref neu amgylcheddau eraill gan ddefnyddio ystafell ddosbarth ddigidol a llwyfan dysgu.
Byddwch yn cael eich cefnogi’n llwyr trwy weithdai ar-lein am ddatblygu proffesiynol a gwytnwch, gyda chymorth pwrpasol gan diwtor a’r gallu i wneud modiwlau hunan-astudio.

Technegau magu hyder.
Ymdrin â sefyllfaoedd dan straen.
Sgiliau llythrennedd digidol.
Deallusrwydd emosiynol.
Sgiliau cyfathrebu.
Meddylfryd twf.
Cynyddu cyfleoedd dysgu i gynorthwyo dilyniant.
Datblygu proffesiynol a hunanymwybyddiaeth.
Dod yn wydn.
Deall eich hawliau fel dinesydd, myfyriwr a hawliau cyflogaeth hefyd.
Deall cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cymorth gyda ffordd o fyw iach.
Cynllunio ar gyfer dilyniant a sgiliau cyflogadwyedd.

Nod y rhaglen ydy’ch helpu chi i oresgyn rhai o'ch rhwystrau i ymgysylltu fel eich bod chi’n gallu dilyn rhagor o ddysgu ym mis Medi 2025

"Hoffwn i ddiolch i fy nhiwtor am ei holl help a gwaith caled. Am gredu ynof fi pan doeddwn i ddim yn credu ynof fi fy hun a chymryd yr amser i fy helpu. Dwi hefyd yn meddwl bod y cwrs wedi fy helpu mewn llawer o ffyrdd gwahanol a dwi’n gobeithio y bydda’ i’n gallu aros yn y coleg y tro yma, trwy ddefnyddio’r holl sgiliau dwi wedi eu dysgu.” Dysgwr Ar-lein Gwytnwch 2023
Tasgau digidol a chynllun dilyniant personol.
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
● Llwybrau dilyniant galwedigaethol mewn Addysg Bellach.
● Twf Swyddi Cymru+
● Prentisiaeth / Cyflogaeth
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?