Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP10279 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Blwyddyn |
Adran | Dysgu Saesneg |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Dysgu Saesneg: Llwybr ESOL i Addysg Bellach (Mynediad 3) (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill)
Ein Dysgu Saesneg: Mae ein cwrs Llwybr ESOL i AB yn berffaith ar gyfer dysgwyr nad Saesneg ydy eu hiaith gyntaf ac sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau Saesneg wrth baratoi ar gyfer addysg bellach a chyflogaeth. P'un a ydych chi’n anelu at wella eich sgiliau cyfathrebu ar gyfer bywyd bob dydd, ennill cymwysterau cydnabyddedig neu eisiau symud ymlaen i astudiaethau bellach neu waith, mae'r rhaglen llawn amser hon yn cynnig y gefnogaeth a'r strwythur sydd ei angen arnoch chi i lwyddo.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Trwy gydol y cwrs, bydd dysgwyr yn magu hyder yn eu gallu i gyfathrebu trwy'r Saesneg yn ogystal ag ennill sgiliau hanfodol ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Mae cymwysterau yn cynnwys:
*Tystysgrif Mynediad 3 City & Guilds mewn ESOL Sgiliau ar gyfer Bywyd - Datblygu sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando er mwyn gwella rhuglder a hyder yn y Saesneg.
*Tystysgrif Mynediad 3 neu Dystysgrif Estynedig Lefel 3 City & Guilds mewn Cyflogadwyedd - Dysgu sgiliau allweddol ar gyfer y gweithle fel gwaith tîm, cyfathrebu, a datrys problemau, er mwyn paratoi ar gyfer cyflogaeth
*Rhifedd a Sgiliau Digidol – Cryfhau sgiliau rhifedd, yn hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd bob dydd. Ennill sgiliau llythrennedd digidol ymarferol
*Cynaliadwyedd a Chymuned - Dysgu sgiliau allweddol i wella cynaliadwyedd a gwirfoddoli yn y gymuned leol
Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo eu bod yn cael croeso a chefnogaeth. Cafodd y cwrs hwn ei lunio i helpu dysgwyr i ddod yn rhan o fywyd coleg, a’u helpu i ddod yn rhan o gymuned ehangach Coleg Cambria.
Bydd pob dysgwr yn elwa o gynllun dilyniant wedi’i strwythuro a fydd yn sicrhau rhaglen ddatblygu wedi'i theilwra sy'n cyfateb i'w hanghenion a'u huchelgeisiau unigol. Byddwn ni’n rhoi'r adnoddau a'r anogaeth sydd eu hangen arnoch chi i gyrraedd eich nodau, p'un a ydych chi’n anelu i barhau i astudio, dod o hyd i waith, neu ddod yn fwy annibynnol yn eich bywyd bob dydd.
*Dosbarthiadau pwrpasol
*Tiwtoriaid ESOL profiadol a chefnogol
*Pontio i’r coleg â chymorth
*Cymwysterau cydnabyddedig a fydd yn eich helpu chi i lwyddo a symud ymlaen
Dechreuwch eich taith i ddysgu gydol oes yng Ngholeg Cambria gyda'n cwrs llawn amser Dysgu Saesneg: Llwybr ESOL i Addysg Bellach.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd am asesiad cychwynnol i sicrhau lefel sylfaenol Mynediad 2-3
Aseiniadau wedi’u gosod yn allanol wedi’u marcio’n fewnol
Cymwysterau pellach mewn ‘Dysgu Saesneg’ neu gefnogi dilyniant i astudiaethau galwedigaethol
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025