Daearyddiaeth - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA09153
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, The AS content is taught in the first year of study.
Dysgir y cynnwys U2 yn yr ail flwyddyn astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis Daearyddiaeth oherwydd ei fod yn darparu cyfle i astudio amrediad eang o themâu a materion cyfoes, y mewnwelediad pwysig mae’n ei gynnig i ddeall ein bydoedd cyfoes, a’r cyfle i roi’r wybodaeth hon ar waith trwy gyfrwng gwaith maes. Mae Daearyddiaeth yn cael ei ystyried yn ‘bwnc hwyluso’ ar gyfer mynediad i brifysgol ac mae’n meddu ar y lefel cymhlethdod sy’n gysylltiedig gyda hyn. Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar feysydd y cwrs Daearyddiaeth TGAU ac mae’n ymgorffori sgiliau ysgrifennu traethodau, dadansoddi data, dehongli mapiau, technoleg gwybodaeth, gwaith maes ac ymchwil personol. Ein nod yw darparu addysg o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr a rhoi amrediad eang o sgiliau iddynt i’w paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus a llawn boddhad. Ymdrechwn i ddarparu’r rhain mewn adran ysgogol, gefnogol a chyfeillgar.

Blwyddyn 1 Uwch Gyfrannol
Uned 1 – Tirweddau sy’n Newid
Adran A – Tirweddau Arfordirol
Adran B – Peryglon Tectonig

Uned 2 – Lleoedd yn Newid
Adran A – Lleoedd yn Newid
Adran B – Ymchwil Gwaith Maes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Dynol

Blwyddyn 2 Safon Uwch
Uned 3 – Systemau Byd-eang a Llywodraethu Byd-eang
Adran A – Systemau Byd-eang – Cylchredau Dŵr a Charbon
Adran B – Llywodraethu Byd-eang: Newid a Heriau – prosesau a phatrymau mudo bydol a llywodraethu bydol cefnforoedd y Ddaear
Adran C – Heriau’r unfed ganrif ar hugain

Uned 4 – Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth
Adran A – Peryglon Tectonig
Adran B – Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth – Twf Economaidd a Heriau: Affrica is-Sahara ac Ecosystemau

Uned 5 – Ymchwiliad Annibynnol
Asesiad di-arholiad: 3,000 – 4,000 gair wedi’i seilio ar gasgliad o ddata cynradd a gwybodaeth eilaidd.

Mae ymweliadau maes gorfodol yn cefnogi ac yn sylfaen i’r holl agweddau ac maent yn ofynnol ar gyfer y gwaith cwrs dan y fanyleb newydd. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gynllunio, casglu data a dadansoddi a gwerthuso’r data a gesglir yn annibynnol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg, a bodloni’r meini prawf canlynol:

-Gradd C/4 neu uwch mewn TGAU Daearyddiaeth

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu trwy gydol y flwyddyn, gyda ffug arholiadau mewnol ar gyfer blwyddyn UG a Safon Uwch. Cynhelir arholiadau allanol ar ddiwedd y cwrs UG ym mis Mai/Mehefin.

Mae hyn yn cyfri am 40% o gyfanswm y cymhwyster Safon Uwch. Mae ail flwyddyn y cwrs yn cyfateb i 60%. Ceir elfen gwaith cwrs sy’n werth 20% o’r cymhwyster cyfan.
Mae Daearyddiaeth Safon Uwch yn cael ei ystyried yn “bwnc hwyluso”, sy’n golygu ei fod yn cael ei dderbyn fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig i gael mynediad i bob sefydliad addysg uwch gan gynnwys Prifysgolion Grŵp Russell. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth uchel ar ymgeiswyr gyda chymwysterau Daearyddiaeth, oherwydd yr ystod o sgiliau amlbwrpas gallant eu cynnig.

Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd cysylltiedig fel samplo a monitro amgylcheddol, Cynllunio Gwlad a Thref, swyddog llywodraeth leol, gweithiwr cymdeithasol, gwasanaeth sifil, rheolwr personél, athro/athrawes, swyddog yr heddlu.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?