Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA09149 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Addysgir y cymhwyster Uwch Gyfrannol ym mlwyddyn gyntaf yr astudio. Addysgir y cymhwyster Safon Uwch yn ail flwyddyn yr astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth o Athroniaeth a Chrefydd, credoau Crefyddol a dysgeidiaeth o Gristnogaeth a Chrefydd a Moeseg. Bwriad y cwrs yw datblygu sgiliau academaidd a chyfathrebu a sgiliau gwerthusiad beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol a’r farchnad swyddi ehangach.
Uwch Gyfrannol (40%)
Uned 1 - Cyflwyniad i Gristnogaeth: astudiaeth o ffigyrau crefyddol a thestunau cysegredig, cysyniadau crefyddol, bywyd crefyddol ac arferion crefyddol.
Uned 2 -
Adran A - Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd: astudiaeth o ddadleuon am fodolaeth Duw, problem drygioni a phrofiad crefyddol.
Adran B - Crefydd a Moeseg: astudiaeth o feddylfryd a theorïau moesegol sy’n berthnasol i faterion fel erthyliad, arbrofi ar anifeiliaid a pherthnasoedd cyfunrywiol, ymysg materion eraill.
A2 (60%)
Uned 3 - Astudiaeth Cristnogaeth: astudiaeth fanylach o ffigyrau a thestunau cysegredig, astudiaeth o ddatblygiadau hanesyddol arwyddocaol mewn meddylfryd crefyddol a datblygiad cymdeithasol arwyddocaol mewn syniadau ac arferion crefyddol a siapio hunaniaeth grefyddol.
Uned 4 - Crefydd a Moeseg: Astudiaeth o iaith a meddylfryd moesegol gan ymchwilio I ddatblygiad theorïau fel Cyfranoliaeth a datblygiadau cyfoes mewn theori foesegol a dadleuon yn cymharu ewyllys rhydd a phenderfyniaeth.
Uned 5 - Athroniaeth Crefydd: Astudiaeth o’r newidiadau I gredoau crefyddol - fel Anffyddiaeth Newydd a datblygiadau ym myd Seicoleg I egluro crefydd, rhagor o ddatblygiadau profiad crefyddol ac archwilio’r problemau gydag iaith grefyddol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Bydd dulliau asesu mewnol yn cynnwys gwaith ymchwil, profion/cwisiau a chwestiynau arholiad. Bydd ffug arholiadau yn rhan allweddol o’r asesiadau mewnol.
Mae’r asesu allanol yn seiliedig ar arholiadau (dim gwaith cwrs), gydag arholiadau UG ym mis Mai yn y flwyddyn gyntaf, ac arholiadau A2 ym mis Mehefin yn yr ail flwyddyn. Mae’r arholiadau’n cynnwys traethodau strwythuredig sy’n cynnwys gwybodaeth a’r gallu i ddadansoddi’r deunydd a astudiwyd.

Mae Astudiaethau Crefyddol yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr y byddant eu hangen i ymchwilio, gwerthuso, strwythuro a chyflwyno gwybodaeth a syniadau. Mae sgiliau ysgrifennu aseiniadau yn cael eu meithrin gyda phwyslais cadarn ar ddadansoddi a meddwl yn feirniadol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i drin a thrafod er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu. Mae’r rhain yn sgiliau sy’n gyffredin i nifer o gyrsiau gradd yn y brifysgol. Mae datblygiad y sgiliau hyn wedi’u paru â natur eang y pwnc, sy’n cwmpasu gwybodaeth o feysydd athroniaeth, moeseg, hanes, diwylliant a chrefydd yn golygu fod myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ystod o bynciau ar lefel gradd. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth eang hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y gymdeithas fel y Gyfraith, Addysg, Sefydliadau Anllywodraethol a swyddi’r Llywodraeth.
Gall fod yn ofynnol prynu offer a/neu wisg benodol ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025