Trosolwg o’r Cwrs
Yn ystod dwy flynedd y rhaglen UG a Safon Uwch (A2), bydd y myfyrwyr yn ymdrin â phynciau sy’n cynnwys Cyflwyniad i Egwyddorion Economaidd ac Economeg ar Waith. Mae'r ddau gwrs hyn yn cyfrif am 40% o gyfanswm y cwrs Safon Uwch.
Ar Lefel Safon Uwch, bydd y ddau bwnc ‘Archwilio Ymddygiad Economaidd’, a ‘Gwerthuso Modelau Economaidd’ yn 60% o'r cwrs. Caiff y rhaglen ei chyflwyno mewn modd amrywiol a diddorol, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, siaradwyr gwadd, sesiynau tiwtorial yn ogystal â theithiau a chynadleddau a gafodd eu llunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr UG a Safon Uwch.

Bydd y tiwtoriaid yn asesu cynnydd myfyrwyr drwy gydol y cwrs gan ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau, gan gynnwys traethodau, astudiaethau achos, adroddiadau, profion ac arholiadau. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i wirio eu cynnydd yn ogystal â’u helpu i ganfod a datrys unrhyw anawsterau.
Cyflawnir y cymwysterau UG a Safon Uwch trwy gwblhau arholiadau ar gyfer pob uned yn llwyddiannus.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg a bodloni’r meini prawf canlynol:
– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Mathemateg haen uwch
Cynghorir ymgeiswyr I gymryd lefel A Mathemateg os ydynt yn dymuno astudio Economeg yn y Brifysgol.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Mae economeg yn bwnc da i ategu cyrsiau gwyddorau cymdeithasol fel Gwleidyddiaeth a Llywodraeth, neu Wyddoniaeth a Mathemateg. Gall arwain at Beirianneg, gyda Mathemateg a Ffiseg. Gydag iaith, gall roi sylfaen wych i’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn gweithio dramor mewn swydd lywodraeth.
Bydd Economeg yn arbennig o ddefnyddiol I’r bobl hynny sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes cyllid a chyfrifeg. Mae llawer o gyrff proffesiynol, fel Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn gofyn am ddealltwriaeth o economeg I fod yn gymwys yn y proffesiwn.

Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.