Cymraeg (Ail Iaith) - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA09150
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Dewch I astudio Cymraeg! Mae’r cwrs hwn ar gael I ddysgwyr llawn amser sy’n dymuno astudio UG a Safon Uwch mewn Cymraeg fel Ail Iaith. Mae’r fanyleb Cymraeg Ail Iaith
UG a Safon Uwch wedi’I llunio I annog myfyrwyr i:

1. Astudio’r Gymraeg gyda diddordeb, pleser a brwdfrydedd;
2. Cyfathrebu’n gywir ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ystod eang o sefyllfaoedd a chyd-destunau;
3. Ysgrifennu’n greadigol ac yn ffeithiol ar gyfer ystod o ddibenion;
4. Dadansoddi testunau cyfarwydd ac anghyfarwydd yn annibynnol;
5. Gwrando ac ymateb I farnau pobl eraill wrth fynegi barn;
6. Mynegi barn annibynnol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth am destunau llenyddol a ffeithiol;
7. Ymateb yn Gymraeg yn glir, mewn modd perthnasol, hyderus a strwythuredig;
8. Chwarae rôl briodol mewn cymdeithas ddwyieithog ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol I ymgeiswyr sydd eisoes wedi cwblhau cwrs TGAU mewn Cymraeg fel Ail Iaith. Mae’r cwrs hefyd yn addas I ymgeiswyr sydd â diddordeb yn niwylliant Cymru, yn enwedig astudio ffilmiau, cerddi a hanes Cymru. Diben y fanyleb hon ydy meithrin sgiliau cyfathrebu ymgeiswyr, mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig. Ei bwriad yw datblygu eu gallu I ddefnyddio’r Gymraeg yn llawn dychymyg. Anogir darllen yn eang, yn ogystal â dysgu gweithiau llenyddol penodol yn drwyadl. Mae’r gallu I ymateb I ddeunyddiau llenyddol ac amlgyfryngau cyfoes yn cael ei hyrwyddo er mwyn dod I werthfawrogi treftadaeth ddiwylliannol Cymru. Gwnaeth CBAC ryddhau cwrs newydd yn 2016-17 a fydd yn apelio at fyfyrwyr sy'n edrych I ehangu eu gwybodaeth am agweddau diddorol iawn ar hanes a diwylliant Cymru, ac sydd â diddordeb yng Nghymru gyfoes. Mae llawer o'r testunau ar y cwrs wedi'u moderneiddio I apelio at ddysgwyr 16+ oed.

Anfonwch e-bost at Carys - carys.roberts@cambria.ac.uk - I weld a ydych chi’n addas ar gyfer y cwrs hwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth am gynnwys y cwrs. Mae’r cwrs hwn yn fwy addas I ddysgwyr sydd wedi cael gradd C neu uwch yn y cwrs llawn, ond mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs byr hefyd yn gallu astudio'r pwnc hwn a byddant yn cael eu cefnogi I wneud hynny.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Sylwch: Ni fydd myfyrwyr sydd wedi astudio TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf / Llenyddiaeth Gymraeg (Iaith Gyntaf) yn cael astudio Cymraeg fel ail iaith.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Y flwyddyn Safon Uwch (Y flwyddyn astudio gyntaf)
Mae tri maes astudio yn seiliedig ar asesiadau craidd siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu:
CA1: Astudio ffilm o’r enw PATAGONIA ac arholiad llafar mewn grŵp o 2-3 o bobl yn profi eich astudiaeth o’r ffilm. Mae yna hefyd asesiad byr (unigol) gyda’r arholwr am eich pwnc gwaith cwrs dewisol.
CA2: GWAITH CWRS. Mae hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu yn syml ond yn effeithiol yn y Gymraeg. Byddwch yn dewis pwnc sy’n eich diddori a’ch ysbrydoli. Mae’n rhaid i’r pwnc dan sylw fod â chysylltiad Cymreig e.e. Cestyll, chwedlau, hanes, diwylliant.
CA3: Arholiad ysgrifenedig yn seiliedig ar RAMADEG a BARDDONIAETH. Byddwch yn ymateb i dri chwestiwn yn profi eich astudiaeth o ramadeg. Byddwch hefyd yn ysgrifennu am gerdd wedi’i dewis o blith 5 cerdd a astudiwyd yn y dosbarth. Mae’r cerddi hyn yn rhai pleserus a chyfredol, a byddant yn galluogi’r myfyriwr i ddysgu termau newydd a gwella eu rhuglder trwy astudio testunau llenyddol yn yr iaith Gymraeg.

Y flwyddyn A2 (Yr ail flwyddyn astudio)
Mae yna dair uned astudio yn yr ail flwyddyn:
CA4: Astudio drama Gymraeg gyfoes o’r enw CRASH. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn arholiad llafar mewn grwpiau ac yn ymateb i gwestiynau sy’n profi eu gwybodaeth am y ddrama. Bydd yna hefyd arholiad unigol yn seiliedig ar astudio themâu Cymreig yn y cwrs. Gelwir hyn yn SYNOPTIG.
CA5: Arholiad ysgrifenedig 2 awr sy’n profi’r meysydd canlynol: Yr Iaith Gymraeg mewn Cymdeithas a Thrawsieithu. Mae’r uned hon yn galw am astudio hanes Cymru: gwleidyddol, cymdeithasol ayb. Mae’r uned hefyd yn ymwneud ag ymarfer y sgìl o drawsieithu – nid cyfieithu – ond dehongli deunydd Saesneg trwy ymateb yn y Gymraeg.
CA6: Arholiad ysgrifenedig 2 awr yn seiliedig ar gyfres o brofion gramadeg, ac adran sy’n profi gwybodaeth ac ymatebion i bedair stori fer Gymraeg gan gynnwys traethawd yn cymharu a chyferbynnu themâu ar draws y cwrs Cymraeg.

Sgiliau: Ceir pwyslais cryf ar sgiliau llafar a gwrando ym mhob gwers a digon o gyfle i weithio mewn parau a grwpiau, gyda’r cynorthwyydd Cymraeg ac yn annibynnol. Datblygir sgiliau ysgrifennu yn systematig trwy gydol y cwrs, yn yr un modd â’r gallu i ddelio â ffurfiau llafar ac ysgrifenedig yr iaith mewn amryw o gyd-destunau.
Mae pwysigrwydd astudio’r Gymraeg yn amlwg, beth bynnag yw eich uchelgeisiau gyrfaol. Bellach, mae cyflogwyr yn nodi pa mor ddymunol yw cymhwyster yn y Gymraeg wrth geisio am swyddi. Fe allech ddewis astudio’r pwnc hwn er eich mwynhad eich hun, er bod cyfleoedd gyrfa yn cael eu creu yn sgil meddu ar gymhwyster yn y Gymraeg megis addysgu, cyfieithu, dehongli a gweithio gyda busnesau sy’n galw am gyfathrebu yn y Gymraeg.

Mae ieithoedd yn cyfuno’n dda ag unrhyw bwnc yn awr bod mwy o sefydliadau AU yn cynnig mwy o bosibiliadau i barhau i astudio iaith. Mae astudio iaith yn galw am ddychymyg, hunanddisgyblaeth a’r gallu i gyfathrebu. Mae’r rhain yn nodweddion dymunol iawn i ddarpar gyflogwyr.
Efallai y bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?