Diploma Lefel 1 mewn Diwydiannau'r Tir

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00367
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser. 3 diwrnod yr wythnos yn y coleg.
Adran
Peirianneg Amaethyddol, Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi’n hoffi gweithio yn yr awyr agored ac ydych chi’n chwilio am lwybr gyrfa ymarferol?

Ydych chi’n mwynhau gweithio gyda’ch dwylo a dysgu sgiliau newydd?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn Amaethyddiaeth, Cadwraeth, Coedwigaeth neu Beiriannau’r Tir?

Mae’r cwrs Lefel 1 yn ddelfrydol i ddysgwyr sy’n bwriadu dechrau gweithio yn sector y tir, naill ai fel ymadawyr ysgol neu fel oedolion sy’n newydd i’r sector ac eisiau ennill y wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol angenrheidiol i symud ymlaen i astudio ymhellach neu gael swydd lefel mynediad yn gweithio yn niwydiannau’r tir.

Os ydi hyn yn apelio atoch chi, yna efallai y byddwch chi’n mwynhau datblygu gyrfa yn unrhyw un o’r diwydiannau ar y tir yma. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod ryw lawer amdanyn nhw ar hyn o bryd, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi.

Mae dau bwnc gorfodol:

• Gweithio’n ddiogel ac effeithiol yn niwydiannau’r tir
• Paratoi i weithio yn niwydiannau’r tir

A phum pwnc ychwanegol:

• Cynorthwyo gyda defnyddio cludiant a’r gwaith cynnal a chadw offer a chyfarpar
• Cyfrannu at adeiladu a chynnal a chadw adeileddau ac arwynebau
• Ymgymryd â gweithrediadau tractor
• Cyflwyniad i fywyd gwyllt a chadwraeth
• Cyflwyniad i Gynhyrchu Da Byw a Bridiau

Byddwch yn dysgu nifer o sgiliau ymarferol yn yr unedau hyn, a byddwch yn gweithio gyda: peiriannau fferm, offer coedwigaeth, byddwch yn adeiladu ac yn atgyweirio cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn helpu i weinyddu triniaethau iechyd i anifeiliaid fferm.

Mae teithiau addysgol yn rhan bwysig o’r cwrs, ac maent yn cynnwys sioeau masnach ac ymweliadau diwydiannol.
Mae’r cwrs hynod lwyddiannus hwn yn cynnig cyflwyniad i bob maes o’n cyrsiau’r tir. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer gweithio yn y diwydiannau hyn. Yn ogystal â hyn bydd y cwrs yn eich helpu i feithrin ystod eang o sgiliau hyblyg fel sgiliau cynllunio a chyfathrebu, gweithgareddau meithrin tîm a sgiliau gwaith eraill. Mae Llythrennedd a Rhifedd yn rhan o’r cwrs hefyd. Mae’r cwrs yn cynnig y cam gyntaf i yrfa lwyddiannus yn niwydiannau’r tir.
Asesir y cwrs hwn trwy arsylwi sgiliau ymarferol, cwestiynu ar lafar, aseiniadau ysgrifenedig a dau brawf ar-lein.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch o leiaf. Rhaid i un ohonynt fod mewn Mathemateg, Saesneg/Cymraeg neu Wyddoniaeth neu gwblhau Cymhwyster Lefel Mynediad perthnasol yn llwyddiannus.

Rhaid i fyfyrwyr sy’n symud ymlaen o Lefel Mynediad 3 ddangos sgiliau Llythrennedd a Rhifedd ar Lefel Mynediad 3 neu’n uwch er mwyn cofrestru.

Yma yng Ngholeg Cambria rydym ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai arwain at gael mynediad ar gwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallai myfyrwyr symud ymlaen i Lefel 2 yn y Diwydiant y Tir a ddewiswyd. Er mwyn symud ymlaen yn llwyddiannus i gyrsiau lefel 2, rhaid i fyfyrwyr gyflawni eu cwrs Lefel 1, a chymwysterau TGAU Mathemateg Iaith Gyntaf Cymraeg / Saesneg ar radd D/3 neu gymwysterau cyfwerth

Cyflogaeth neu Brentisiaeth yn y diwydiant.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Useful downloads
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?