Tystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Peiriannau'r Tir

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00258
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Blwyddyn, Llawn Amser
Adran
Peirianneg Amaethyddol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn cwmpasu'r holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ofynnol ar gyfer y diwydiant peirianneg y tir. Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd sy’n cynnwys peiriannau, iechyd a diogelwch, peirianneg gwasanaethu, saernïo, torri / uno a gweithredu peiriannau yn ein cyfleuster gweithdy modern.

Byddwch yn dysgu sut i brofi ac atgyweirio injans (gan gynnwys defnyddio Dynamomedr) systemau trawsyriannau, systemau trydanol a systemau hydrolig. Yn ogystal â hynny, byddwch yn dysgu sut mae systemau trawsyriannau pŵer mecanyddol a chydwyr yn gweithio. Byddwch hefyd yn dysgu sut i weithredu peiriannau trin tir, peiriannau taenu a pheiriannau cynaeafu.

Hefyd, byddwch yn cael cyfleoedd i ymgymryd ag asesiadau allanol i ennill tystysgrifau cymhwysedd mewn Gyrru Tractorau, Trinwyr Telesgopig, Weldio, Cerbydau Pob Tir, Wagenni Fforch Godi ac Olwynion Sgraffinio.

Ble fyddaf yn astudio?
Byddwch wedi eich lleoli ar ein safle Llysfasi yn ein Gweithdy Peirianneg fodern bwrpasol.
Mae Llysfasi yn Rhuthun, Gogledd Ddwyrain Cymru.

Cyfleusterau
Byddwch yn gallu defnyddio’r Gweithdy Peirianneg fodern o’r radd flaenaf, gyda’r peiriannau diagnostig a modern diweddaraf, a fferm fasnachol 970 erw sy’n cynnwys mentrau Llaeth, Cig Eidion a Defaid, ynghyd â rhywfaint o gynhyrchu cnwd porthiant yn agos.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf) NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at fynediad I gwrs lefel uwch.
I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i ymgeiswyr lwyddo yn yr asesiadau canlynol:

Un prawf iechyd a diogelwch wedi’i osod a’i farcio’n allanol.
Un arholiad wedi’i osod a’i farcio’n allanol, sy’n cael ei sefyll dan amodau arholiad.
Un aseiniad wedi’i osod un allanol, ei farcio’n fewnol, a’i gymedroli’n allanol.
● Diploma Estynedig Technegol Uwch Lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol neu Ddiploma Estynedig Technegol Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth Fanwl Gywir – Llwybr Mecaneiddio.
● Mae prentisiaethau a hyfforddeiaethau ar gael yn y diwydiant, lle gallwch weithio wrth barhau I astudio.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?