Diploma lefel 3 mewn Rheoli Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP50202
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser 2 flynedd, gyda 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg, ac 1 diwrnod o brofiad gwaith.
Adran
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae deall sut mae cefn gwlad yn gweithio, cynnal y dirwedd, ei amrywiaeth o rywogaethau a chynefinoedd yn ganolog i reolaeth cefn gwlad. Os ydych yn mwynhau bod yn yr awyr agored, ddim yn malio baeddu eich dwylo, ac yn ymddiddori mewn bywyd gwyllt, cadwraeth, hamdden awyr agored, sgiliau gwledig neu reoli helfeydd, efallai mai dyma’r union gwrs i chi.

Byddwch yn dysgu am wahanol gynefinoedd, fel coetir, gwlyptir, rhostir, glaswelltir, a’r rhywogaethau sy’n byw ynddynt; am brosesau naturiol a’r ecosystemau a gynhelir ganddynt, a sut mae’r rhain yn cynnal pob bywyd yn y pen draw. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, o ffensio a phlygu gwrychoedd, i reoli coetir, bondoncio, plannu a thorri coed, gweithredu a chynnal a chadw peiriannau gan gynnwys tractorau, llifau cadwyn, torwyr prysgwydd, cerbydau pob tir (ATV) a rhagor na hynny.

Trwy gydol y cwrs, byddwch yn gweithio tuag at safonau diwydiant ac yn dysgu a meithrin sgiliau ymarferol, yn ogystal â dod i ddeall materion damcaniaethol y diwydiant. Ceir cryn bwyslais ar waith ymarferol, a chewch ddigon o gyfle i wneud gwaith ymarferol ac yn agos at goed. Mae teithiau addysgol yn rhan bwysig o’r cwrs, ac maent yn gyfleoedd dysgu ychwanegol, trwy ymweliadau a sesiynau ymarferol. Mae cysylltiadau agos â diwydiant yn cynnig sefyllfaoedd gwaith go iawn i chi fel dysgwr, ynghyd â chyfnodau lleoliad gwaith sylweddol, a byddwch yn cael yr holl brofiad sydd arnoch ei angen i gael mantais wrth ddechrau yn eich swydd gyntaf.

I gyd-fynd â'r prif gwrs, mae modd astudio amrywiaeth o gymwysterau ychwanegol (am gost) megis defnyddio llifiau cadwyn, cwad ATV, torwyr prysgoed, peiriannau naddu pren, taenu plaladdwyr a gyrru tractorau.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio ar brosiectau cymunedol, a gweithgareddau eraill, yn ogystal â'ch prosiect unigol eich hun, wrth weithio tuag at gwblhau Bagloriaeth Cymru Uwch.
5 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf) NEU
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Mae pob uned y cymhwyster yn cael eu hasesu trwy ystod o aseiniadau, sy’n asesu sgiliau ymarferol, gwybodaeth a dealltwriaeth, fel y bo’n briodol i’r uned.

Rhaid llwyddo ym mhob aseiniad i lwyddo yn yr unedau, ac mae’n rhaid llwyddo ym mhob uned i ennill y cymhwyster. Mae asesiadau’n cael eu cynnal trwy gydol y cwrs, gyda dyddiadau cau gosod ar gyfer tasgau unigol. Rhoddir graddau ar gyfer pob aseiniad, sy’n cyfrannu at radd gyffredinol y cymhwyster.
Gallai cwblhau’r cymhwyster arwain at swydd neu brentisiaeth gyda chwmni, gontractwr neu gorff cefn gwlad. Gallai hyn olygu gweithio i ystâd, tirfeddiannwr, fferm, stad hela/saethu, cwmni rheoli coedwig, contractwr neu awdurdod lleol. Gallech weithio fel warden cefn gwlad, parcmon, contractwr/gweithredwr peiriannau, parcmon coedwig, crefftwr, goruchwyliwr, rheolwr gwirfoddolwyr, goruchwyliwr ystâd, contractwr ffiniau a llawer mwy.

Efallai byddwch yn penderfynu parhau i astudio cwrs perthnasol mewn prifysgol, er enghraifft Rheoli Cefn Gwlad (BSc), Ecoleg (BSc.), Cadwraeth Cefn Gwlad (BSc), Gradd Sylfaen Tilhill mewn Coedwigaeth a Rheoli Coetiroedd (FdSc.), Rheoli Cadwraeth Coetiroedd (BSc.) neu Goedwigaeth Amgylcheddol (BSc).
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?