Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Lletygarwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP51318
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, HNC Llawn Amser 1 flwyddyn
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
22 Sep 2025
Dyddiad gorffen
27 May 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cymhwyster Cenedlaethol Uwch mewn Rheoli Lletygarwch yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i swyddi rheoli mewn ystod eang o ddiwydiannau’r sector gwasanaeth.

Trwy gydol y cwrs Rheoli Lletygarwch, byddwch yn astudio trwy gyfuniad o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol; tasgau ac aseiniadau a fydd yn cael eu gosod i gyd-fynd â’r cysylltiad rhwng gwybodaeth a sgiliau ymarferol mewn diwydiant gwasanaeth bywyd go iawn. Nod y cymhwyster HNC yw rhoi’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i unigolion ar gyfer nifer o swyddi gwahanol mewn Rheoli Lletygarwch.

Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunan-astudio, yn ychwanegol at yr oriau addysgu.

Lleoliad Gwaith - Mae'r rhaglen hon yn cynnwys elfen o leoliad gwaith hanfodol. Os nad ydych mewn cyflogaeth yn barod bydd y coleg yn eich helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith (ond ni allwn sicrhau hynny'n llwyr).

Modiwlau Blwyddyn 1

Uned 1 Y Diwydiant Lletygarwch Cyfoes
Uned 2 Rheoli Cwsmeriaid
Uned 3 Arfer Lletygarwch Cynaliadwy
Uned 4 Pecyn Cymorth Busnes Lletygarwch
Uned 5 Arwain a Rheoli ar gyfer Lletygarwch (wedi’i gosod gan Pearson)
Uned 6 Rheoli Gweithrediadau Bwyd a Diod
Uned 13 Profiad Gwaith
Level 3 qualification in a related subject or relevant industry experience

GCSE grade C or above in English / Welsh and Maths or equivalent
Mae’r asesiad o gymwysterau Cenedlaethol Uwch BTEC Edexcel yn cyfeirio at faen prawf a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn deilliannau dysgu a meini prawf asesu cyhoeddedig. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys aseiniadau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a thrafodaeth broffesiynol.

Bydd pob modiwl yn cael ei raddio’n unigol fel ‘llwyddo’, ‘teilyngdod’ neu ‘ragoriaeth’. Er mwyn cyflawni gradd lwyddo ar gyfer y modiwl rhaid i chi fodloni’r meini prawf asesu wedi’u nodi yn y manylebau. Mae hyn yn gwneud y broses asesu yn un dryloyw ac yn darparu ar gyfer sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer pob cymhwyster.


Mae’r Cymhwyster Cenedlaethol Uwch mewn Rheoli Lletygarwch yn rhoi cymhwyster technegol uwch i fyfyrwyr a fydd yn briodol wrth ddilyn uchelgeisiau gyrfa yn y sectorau canlynol yn y diwydiant lletygarwch:


• Rheoli Bwyty a Gwestai
• Rheoli lletygarwch corfforaethol
• Cynadledda a rheoli digwyddiadau

Ar ôl cwblhau’r HNC yn llwyddiannus efallai yr hoffech chi barhau â’ch astudiaethau tuag at HND mewn Rheoli Lletygarwch
HNC Full Time = £5,000 bob blwyddyn academaidd am 1 flwyddyn.

Defnyddiwch Goleg Cambria fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?