Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01199
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, HND Llawn Amser 2 flynedd

Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunan-astudio, yn ychwanegol at yr oriau addysgu.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
22 Sep 2025
Dyddiad gorffen
28 May 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cymhwyster Cenedlaethol Uwch mewn Rheoli Lletygarwch yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i swyddi rheoli mewn ystod eang o ddiwydiannau’r sector gwasanaeth.

Trwy gydol y cwrs Rheoli Lletygarwch, byddwch yn astudio trwy gyfuniad o ddamcaniaeth a gwaith ymarferol; tasgau ac aseiniadau a fydd yn cael eu gosod i gyd-fynd â’r cysylltiad rhwng gwybodaeth a sgiliau ymarferol mewn diwydiant gwasanaeth bywyd go iawn. Nod y cymhwyster HND yw rhoi’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i unigolion ar gyfer nifer o swyddi gwahanol mewn Rheoli Lletygarwch.

Lleoliad Gwaith - Mae'r rhaglen hon yn cynnwys elfen o leoliad gwaith hanfodol. Os nad ydych mewn cyflogaeth yn barod bydd y coleg yn eich helpu i ddod o hyd i leoliad gwaith (ond ni allwn sicrhau hynny'n llwyr).

Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunan-astudio, yn ychwanegol at yr oriau addysgu.


Modiwlau Blwyddyn 1

Uned 1 Y Diwydiant Lletygarwch Cyfoes
Uned 2 Rheoli Cwsmeriaid
Uned 3 Arfer Lletygarwch Cynaliadwy
Uned 4 Pecyn Cymorth Busnes Lletygarwch
Uned 5 Arwain a Rheoli ar gyfer Lletygarwch (wedi’i gosod gan Pearson)
Uned 6 Rheoli Gweithrediadau Bwyd a Diod
Uned 13 Profiad Gwaith

Modiwlau Blwyddyn 2

Uned 18 Prosiect Ymchwil (wedi’i gosod gan Pearson)
Uned 19 Sgiliau Rhyngbersonol Lletygarwch
Uned 29 Rheoli a Chynllunio Digwyddiad
Uned 31 Marchnata Digidol
Uned 20 Ymddygiad a Gwybodaeth Defnyddwyr Lletygarwch
Uned 25 Barista i Reoli Bar

• Cymhwyster lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig neu brofiad perthnasol yn y diwydiant
• TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg neu gymwysterau cyfwerth
Mae’r asesiad o gymwysterau Cenedlaethol Uwch BTEC Edexcel yn cyfeirio at faen prawf a byddwch yn cael eich asesu yn erbyn deilliannau dysgu a meini prawf asesu cyhoeddedig. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys aseiniadau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a thrafodaeth broffesiynol.

Bydd pob modiwl yn cael ei raddio’n unigol fel ‘llwyddo’, ‘teilyngdod’ neu ‘ragoriaeth’. Er mwyn cyflawni gradd lwyddo ar gyfer y modiwl rhaid i chi fodloni’r meini prawf asesu wedi’u nodi yn y manylebau. Mae hyn yn gwneud y broses asesu yn un dryloyw ac yn darparu ar gyfer sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer pob cymhwyster.
Mae’r Cymhwyster Cenedlaethol Uwch mewn Rheoli Lletygarwch yn rhoi cymhwyster technegol uwch i fyfyrwyr a fydd yn briodol wrth ddilyn uchelgeisiau gyrfa yn y sectorau canlynol yn y diwydiant lletygarwch:

• Rheoli Bwyty a Gwestai
• Rheoli lletygarwch corfforaethol
• Cynadledda a rheoli digwyddiadau


Ar ôl cwblhau’r HNC yn llwyddiannus efallai yr hoffech chi barhau â’ch astudiaethau tuag at HND mewn Rheoli Lletygarwch.
HND FT 2 years £5,000 per year for 2 years.

Defnyddiwch Goleg Cambria fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?