Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Astudiaethau Busnes - Lefel A
Rhestr Fer
- Cliciwch ‘Ychwanegu y Rhestr Fer’, er mwyn dechrau adeiladu eich rhestr o bynciau a chyrsiau y gallwch chi eu hadolygu a gwneud cais i’w hastudio.
Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA00048 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio. Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio. |
Adran | Cyrsiau Safon Uwch |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar natur newidiol barhaus busnes a sut mae materion cenedlaethol a rhyngwladol yn effeithio arno. Byddwn yn ystyried busnesau yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol a bydd gofyn i fyfyrwyr, ar gyfer UG a Safon Uwch, wybod am faterion cyfoes fel rhan o’r cwrs hwn. Lle bynnag y bo modd, bydd enghreifftiau busnes go iawn yn cael eu hymchwilio, eu dadansoddi a'u gwerthuso gan ddod ag ystyr i'r theori a gafodd ei hastudio yn y maes llafur. Yn ogystal ag addysgu ffurfiol, bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn chwarae rôl, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp a gwaith unigol.
Bydd myfyrwyr yn astudio dau fodiwl ym mlwyddyn 1. Bydd y modiwl cyntaf yn rhoi cyflwyniad i gwmpas Astudiaethau Busnes gan ganolbwyntio ar sefydlu busnesau newydd mewn cyd-destun entrepreneuraidd. Bydd disgwyl iddyn nhw feithrin dealltwriaeth o'r ystod o weithgareddau sy'n gysylltiedig â sefydlu busnes bach, er enghraifft ymchwilio i'r farchnad, penderfynu ar strwythur cyfreithiol y busnes a dod o hyd i gyllid. Yn yr ail fodiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio sut i fesur effeithiolrwydd busnes mwy trwy bedair prif swyddogaeth busnes: Marchnata - cyfathrebu'n effeithiol â'r cwsmer; Cyllid - cynllunio, monitro ac asesu cyllid y busnes; Rheoli Gweithrediadau - pa mor effeithlon y mae'r busnes yn trawsnewid deunyddiau crai yn gynnyrch neu wasanaeth gorffenedig; ac Adnoddau Dynol - dulliau sy’n cael eu defnyddio i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trefnu a'u rheoli i weithio mor gynhyrchiol ac effeithlon â phosibl.
Ym mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn adeiladu ar eu gwybodaeth a gawson nhw yn y flwyddyn UG trwy ddau fodiwl arall, lle byddan nhw’n ystyried gweithrediadau busnes ar safbwynt cenedlaethol a byd-eang, ar lefel strategol. Mae'r pwyslais yn y modiwl cyntaf ar ddeall a defnyddio technegau dadansoddol a datblygu strategaethau busnes priodol, er enghraifft trwy ddefnyddio modelau gwneud penderfyniadau. Mae'r ail fodiwl yn canolbwyntio ar sut mae busnesau'n addasu i lwyddo mewn amgylchedd allanol deinamig, trwy ddeall sut y gall ystod o ffactorau allanol effeithio ar weithgareddau o ddydd i ddydd, gwneud penderfyniadau a strategaeth. Mae rhagor o ganolbwyntio ar ddadansoddi a gwerthuso, a dealltwriaeth dysgwyr i ddangos lefel uwch o wybodaeth a dealltwriaeth. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhagor o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain ar y lefel hon, gan ddarllen o amgylch y meysydd pwnc a chadw eu gwybodaeth materion cyfoes yn gyfredol.
Does dim gwaith cwrs, ond bydd rhaid i ddysgwyr gwblhau traethodau ac adroddiadau ar lefel Safon Uwch.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Mae Astudiaethau Busnes Safon Uwch yn gwrs modiwlaidd dwy flynedd sy’n seiliedig ar arholiadau. Bydd dau arholiad ar ddiwedd bob blwyddyn.
Ar lefel UG, bydd y ddau arholiad yn cynnwys cwestiynau atebion byr, a chwestiynau sy’n gofyn am ymateb i ddata a rhai yn gofyn am ymatebion estynedig.
Bydd yr arholiadau Safon Uwch yn galw ar y cynnwys o’r unedau UG ac unedau Safon Uwch.
Bydd yr arholiad cyntaf yn canolbwyntio ar gwestiynau sy’n ymateb i ddata, rhai cwestiynau byr a rhai’n gofyn am atebion estynedig yn seiliedig ar astudiaethau achos. Bydd yr ail arholiad yn cynnwys dwy adran. Bydd Adran A yn cynnwys nifer o gwestiynau, yn bennaf yn gofyn am atebion estynedig, yn seiliedig ar astudiaeth achos. Bydd Adran B yn gofyn i’r dysgwr ysgrifennu traethodau synoptig.
Bydd gan bob arholiad ffocws meintiol yn rhai o’r cwestiynau.

Bydd myfyrwyr yn gallu dilyn nifer o yrfaoedd gwahanol ar ôl cwblhau eu Safon Uwch mewn Astudiaethau Busnes yn llwyddiannus, megis:
• Graddau mewn meysydd yn ymwneud â Busnes, fel Rheoli Busnes, Marchnata, Cyfrifeg, Seicoleg, Adnoddau Dynol a
Busnes Rhyngwladol.
• Mewn meysydd nad ydynt yn gysylltiedig â Busnes, mae Astudiaethau Busnes Safon Uwch yn cael ei ystyried yn fantais
bob amser mewn meysydd fel y Gwyddorau, y Celfyddydau, Hamdden / Rheoli Twristiaeth ac Arlwyo.
• Mae hefyd yn bosibl i gael gwaith mewn rhai proffesiynau yn uniongyrchol yn dilyn Safon Uwch ac mae galw mawr am
gymhwyster Astudiaethau Busnes mewn bancio, marchnata a manwerthu.
• Mae safon uwch Busnes hefyd yn fuddiol wrth ddilyn prentisiaethau mewn busnesau arweiniol fel Airbus, Unilever a
Nestle.
Efallai y bydd rhai myfyrwyr entrepreneuraidd yn dewis sefydlu eu busnes eu hunain.

Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025