Economeg - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00049
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Yn ystod dwy flynedd y rhaglen Safon Uwch, bydd myfyrwyr yn ymdrin â phynciau sy’n cynnwys Cyflwyniad i Egwyddorion Economaidd ac Economeg ar Waith. Mae'r ddau gwrs yma’n cyfrif am 40% o gyfanswm y cwrs Safon Uwch.

Ar Lefel Safon Uwch, bydd y ddau bwnc ‘Archwilio Ymddygiad Economaidd’, a ‘Gwerthuso Modelau Economaidd’ yn 60% o'r cwrs. Caiff y rhaglen ei chyflwyno mewn modd amrywiol a diddorol, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, siaradwyr gwadd, tiwtorialau yn ogystal â theithiau a chynadleddau a gafodd eu llunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr UG a Safon Uwch.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf) a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Mathemateg haen uwch.

*Rydym yn awgrymu I ymgeiswyr astudio Mathemateg Safon Uwch os ydynt yn dymuno astudio Economeg yn y brifysgol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Trwy gydol y cwrs, bydd tiwtoriaid yn asesu cynnydd myfyrwyr gan ddefnyddio dulliau amrywiol gan gynnwys traethodau, astudiaethau achos, adroddiadau, profion ac arholiadau. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i wirio’u cynnydd yn ogystal â helpu i ganfod a datrys unrhyw anawsterau.

Cyflawnir y cymwysterau UG a Safon Uwch trwy lwyddo yn yr arholiadau ar gyfer pob uned.
Mae economeg yn bwnc da i ategu cyrsiau gwyddorau cymdeithasol fel Gwleidyddiaeth a Llywodraeth, neu Wyddoniaeth a Mathemateg. Gall arwain at Beirianneg, gyda Mathemateg a Ffiseg. Gydag iaith, gall roi sylfaen wych i’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn gweithio dramor mewn swydd lywodraeth.

Bydd Economeg yn arbennig o ddefnyddiol I’r bobl hynny sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes cyllid a chyfrifeg. Mae llawer o gyrff proffesiynol, fel Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn gofyn am ddealltwriaeth o economeg I fod yn gymwys yn y proffesiwn.


Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisgoedd ar rai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?