Astudiaethau Drama a Theatr Safon Uwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00071
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r rhaglen astudio Drama Safon Uwch yn heriol, yn werth chweil a difyr ac mae'n cynnig profiad gwerthfawr i chi os oes gennych chi ddiddordeb brwd a dawn yn y maes pwnc hwn.

Mae Astudiaethau Drama a Theatr yn rhoi cyfle i chi ddyfnhau ac ehangu eich dealltwriaeth o faes y pwnc ac i feithrin hyder a sgiliau cyfathrebu a chyflwyno hefyd.

Yn ystod blwyddyn 1, byddwch chi’n dod i ddeall perfformiadau byw a’u dadansoddi, astudio testun gosod a pherfformio darn wedi’i sgriptio neu ddylunio gwisg, goleuadau a’r set.

Ym mlwyddyn 2 byddwch chi hefyd yn deall perfformiadau byw a’u dadansoddi. Byddwch chi hefyd yn astudio dau destun gosod gan ddadansoddi ac edrych arnyn nhw trwy lygaid cyfarwyddwr, perfformiwr a dylunydd.

Os ydych chi’n ymgymryd â’r elfen perfformio, byddwch chi hefyd yn creu darn o ddrama wreiddiol yn ogystal â pherfformio testun gosod. Os ydy tu ôl i'r llenni yn fwy dymunol i chi, gallwch chi ddewis yr elfen ddylunio a threfnu'r gwisgoedd, y goleuadau neu ddyluniad y llwyfan ar gyfer y perfformiadau hyn. Bydd gofyn i chi fynd i berfformiadau theatr yn rheolaidd.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch yn cynnwys Iaith Saesneg/ Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Ar lefel UG
Uned 1 – Gweithdy theatr sy’n asesiad ymarferol a asesir yn fewnol, a’i gymedroli’n allanol.
Uned 2 – Mae Testun mewn Theatr yn arholiad ysgrifenedig.

Ar lefel Safon Uwch
Uned 3 – Testun mewn Perfformiad sy’n asesiad ymarferol a asesir yn allanol gan arholwr ar ymweliad.
Uned 4 – Mae Testun mewn Perfformiad yn arholiad ysgrifenedig.
Gallwch barhau gyda’ch astudiaethau Drama a Theatr yn y brifysgol neu mewn ysgol ddrama a gydnabyddir yn genedlaethol neu gael gwaith yn y diwydiannau Celfyddydau Perfformio.

Mae’r cwrs hefyd wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer dilyn dewisiadau gyrfaoedd eraill sy’n ymwneud â sgiliau dadansoddi, cyflwyno a chyfathrebu.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?